Pont arall dros y Fenai yn cael ei hystyried eto, medd Ken Skates
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgrifennydd trafnidiaeth newydd yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ffyrdd newydd.
Dywedodd Ken Skates wrth BBC Cymru ei bod hi'n bosib y bydd cynlluniau am drydedd bont dros y Fenai a 'llwybr coch' ar yr A494 yn Sir y Fflint yn cael eu trafod eto.
Cafodd pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru eu canslo yn 2023, am resymau amgylcheddol ac ariannol.
Ond dywedodd Mr Skates, sy'n olynu Vaughan Gething fel ysgrifennydd trafnidiaeth, ei bod hi'n annhebygol y bydd ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd yn digwydd, oherwydd costau.
'Angen i Gymru fod ar flaen y gad'
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd bod y cyfle i adeiladu'r ffordd honno "wedi pasio."
Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn ystyried y realiti rydyn ni'n wynebu o ran argyfwng hinsawdd.
"Rydw i eisiau i Gymru fod ar flaen y gad wrth ddylunio ac adeiladu prosiectau newydd.
Cafodd holl brosiectau mawr i adeiladu ffyrdd newydd eu canslo ym mis Chwefror 2023 oherwydd pryderon amgylcheddol, gan gynnwys trydedd bont dros y Fenai a 'llwybr coch' dadleuol ar yr A494 yn Sir y Fflint.
Yn y cynlluniau gwreiddiol, byddai'r 'llwybr coch' yn mynd o Laneurgain hyd at y ffin â Lloegr.
Dywedodd Mr Skates: "Dydyn ni heb roi'r gorau i adeiladu ffyrdd, ond mae'n rhaid i ni ddelio gyda'r amodau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ffyrdd newydd sy'n dweud nad ydyn ni'n gallu eu hadeiladu nhw, os yw hynny'n golygu y bydd rhagor o gerbydau ar y ffyrdd.
"Mae hynny wedi achosi anhawster wrth ystyried prosiectau."
Dywedodd y byddai'n rhaid i ffyrdd newydd fod yn "well" na'r rhai sydd wedi eu hadeiladu yn y gorffennol a bod yn rhaid sicrhau bod yr arian ar gael.
Yn 2019, fe ddaeth cynlluniau i adeiladu ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd i ben oherwydd y gost a'r effaith ar yr amgylchedd.
Dywedodd Mr Skates bod y cyfle i ail edrych ar y cynlluniau hynny "wedi pasio".
"Allai ddim gweld hynny'n digwydd. Byddai'r gost yn enfawr."
"O ystyried y sefyllfa economaidd presennol, byddai'r cynllun yn costio mwy o lawer na'r hyn gafodd ei awgrymu ar y pryd, ac allai ddim gweld y bydd yr arian ar gael."
Ond, dywedodd Mr Skates y byddai'n "barod iawn" i drafod sut i ariannu prosiectau posib gyda Llywodraeth y DU.
Wrth ymateb, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, bod yr hyn mae Mr Skates yn ei ddweud yn "addawol".
"Dydw i ddim yn siŵr os yw penderfyniad llywodraeth Cymru i roi'r gorau i'r cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4 ar sail egwyddor, neu ar sail y gost.
"Os mai'r gost ydi'r rheswm yna mae'n sicr yn werth cael trafodaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023