'Ystyried erlyn rheolwyr Swyddfa'r Post yn breifat'

  • Cyhoeddwyd
Alan Bates yn siarad gyda'r cyfryngau ar ôl rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alan Bates yn siarad gyda'r cyfryngau ar ôl rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad yn Llundain ar 9 Ebrill

Mae arweinydd yr ymgyrch dros gyfiawnder i is-bostfeistri a gafodd eu herlyn am gam yn dweud ei fod yn ystyried codi arian ar gyfer erlyniadau preifat dros sgandal system cyfrifiadurol diffygiol Swyddfa'r Post.

Dywed Alan Bates, cyn-is-bostfeistr yn Llandudno, y bydd yn cymryd camau os nad yw'r awdurdodau'n gweithredu.

"Roedd yn dderbyniol i Swyddfa'r Post ddwyn erlyniadau preifat - os oes rhaid i ni wneud yr un peth, dyna fydd rhaid," dywedodd.

Cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam rhwng 1999 a 2015 wedi i feddalwedd y system Horizon achosi colledion ariannol.

Wrth roi tystiolaeth yr wythnos hon i'r ymchwiliad i'r sgandal, dywedodd sawl uwch swyddog gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol adeg yr erlyniadau nad oedden nhw wedi sylweddoli ar y pryd mai Swyddfa'r Post ei hun oedd yn erlyn nifer fawr o'r is-bostfeistri gan fod hawl i wneud hynny'n uniongyrchol.

Ar raglen Today BBC Radio 4 ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Bates, a arweiniodd yr ymgyrch am gyfiawnder ar ôl cael ei ddiswyddo wedi anghysonderau yn ei gyfrifon, bod angen eglurdeb ynghylch gorchwyl yr ymchwiliad.

"Rydym wedi clywed gan sawl cyfreithiwr dros amser bod hi'n ymddangos bod sawl achos posib i'w hateb," dywedodd.

"Mi wn bod yna iawndal i'r unigolion ond maen nhw hefyd eisiau gweld pobl yn cael eu dwyn i gyfri yn hyn oll.

"Hyd ydw i'n deall, dydy'r ymchwiliad fel y mae'n sefyll ddim yn mynd i wneud y math yna o argymhelliad [i erlyn].

"Efallai ddylai Aelodau Seneddol ystyried newid y gorchwyl i gynnwys y math yna o argymhelliad os nad ydy o yna yn y lle cyntaf."

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch hir Alan Bates wedi cael mwy o sylw nag erioed eleni yn dilyn darllediad y gyfres ddrama Mr Bates v The Post Office

Mewn sylwadau a wnaeth yn wreiddiol i bapur The Times, dywedodd Mr Bates y byddai'n ystyried trefnu ymgyrch codi arian torfol ar gyfer dwyn erlyniadau preifat yn erbyn rheolwyr Swyddfa'r Post, gan ddilyn proses debyg i'r hyn a arweiniodd at gyhuddo is-bostfeistri o ddwyn yn y llysoedd.

Yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad yr wythnos hon, cyhuddodd Mr Bates Swyddfa'r Post o ddweud celwydd am y system gyfrifo a cheisio "fy nifrïo a'm distewi" am flynyddoedd.

Mae Swyddfa'r Post wedi ymddiheuro am y "gofid a'r dioddefaint" yr achosodd y sgandal, gan ymroddi i sicrhau'r "cyfiawnder a'r iawndal" y mae'r dioddefwyr a'u teuluoedd yn ei "haeddu".

Ddydd Gwener, fe glywodd yr ymchwiliad gan gyn-reolwr gyfarwyddwr Swyddfa'r Post rhwng 2006 a 2020, Alan Cook, a ddywedodd nad oedd wedi sylweddoli tan 2009 mai'r Swyddfa Post ei hun oedd yn erlyn is-bostfeistri.

Dywedodd ei fod wedi meddwl bod yr heddlu â rhan yn y broses, cyn dod i wybod mai Swyddfa'r Post oedd wedi dwyn tua dau o bob tri achos oedd wnelo â diffygion Horizon.

Yn ystod cyfnod Mr Cook wrth y llyw, arweiniodd erlyniadau Swyddfa'r Post at 292 o euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar sail data Horizon.

Mae Heddlu'r Met yn ymchwilio Swyddfa'r Post mewn cysylltiad â throseddau posib o dwyll yn sgil yr erlyniadau.