Elusen: Diswyddo dau ar unwaith
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr a chyfarwyddwr cyllid elusen lleiafrifoedd ethnig AWEMA wedi eu diswyddo wedi honiadau o gamreoli ariannol.
Bydd y prif weithredwr, Naz Malik, a'r cyfarwyddwr cyllid, Saquib Zia, yn gadael eu swyddi ar unwaith, yn ôl datganiad cadeirydd yr elusen, Dr Rita Austin.
Ychwanegodd Dr Austin y byddai gweinyddwr yn cael ei benodi i reoli asedau a busnes Awema a chau'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Abertawe.
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach ym mis Chwefror wedi casglu bod 'na wendidau amlwg yn y modd y cafodd yr elusen ei rheoli.
Ymchwiliad
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol i'r arian mae'r elusen wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd ac fe fydd y Comisiwn Elusennau hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Cafodd arian cyhoeddus ei atal i'r elusen gan Lywodraeth Cymru ar ôl i ymchwiliad ganfod "methiannau sylweddol a sylfaenol".
Dywedodd Dr Austin: "Mae bwrdd Awema am ddiolch i'w staff am y gwaith caled maent wedi darparu ar gyfer y cannoedd o gyfranogwyr a gofrestrwyd mewn prosiectau gafodd eu rheoli gan Awema a'u hariannu gan Ewrop yn Abertawe ac ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos, ac yng Ngogledd Cymru, yn enwedig yn ystod yr wythnosau anodd diwethaf.
"Mae aelodau o staff mewn cysylltiad â chyfranogwyr ac fe fyddan nhw'n gwneud eu gorau glas i sicrhau y bydd gwasanaethau cymorth yn parhau drwy ddulliau eraill.
"Mae bwrdd Awema yn benderfynol o ddarparu dyletswydd gofal iawn i'n staff wrth i Awema fynd trwy'r broses o gau, ac rydyn ni'n cymryd y camau angenrheidiol i wneud hyn.
"Yn olaf, hoffai bwrdd Awema gydnabod difrifoldeb y materion ddaeth i sylw'r cyhoedd yn Adroddiad Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru.
"Mae'n amlwg y bu methiannau difrifol o ran effeithiolrwydd trefn lywodraethol a rheolaeth ariannol Awema.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ynghylch y materion hyn ac o ganlyniad mae Awema yn awr yn gweithredu, wythnos yn ddiweddarach."
'Methiannau sylweddol'
Ni fydd Mr Malik yn cynnal unrhyw gyfweliadau yn dilyn ei ddiswyddiad.
Roedd Mr Zia eisoes wedi ei wahardd o'i waith dros dro.
Dywedodd wrth BBC Cymru ddydd Gwener ddiwethaf ei fod wedi lleisio ei bryderon am Awema gydag aelodau o'r bwrdd.
Nododd Adroddiad Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, gafodd ei gyhoeddi ar Chwefror 9, fod methiannau sylweddol a sylfaenol yn fframwaith rheoli a llywodraethu Awema.
Roedd Awema yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Yn niwedd 2010, fe wnaeth adroddiad Dr Paul Dunn, cyn-bennaeth corff cydraddoldeb yn Lloegr, gyfeirio at honiadau fod Mr Malik wedi cymeradwyo ei godiad cyflog ei hun.
Ac roedd honiadau bod ei ferch, Tegwen Malik, wedi cael swydd a'i dyrchafu nifer o weithiau "heb gystadleuaeth fewnol nac allanol".
Casglodd yr adroddiad fod Mr Malik wedi defnyddio arian yr elusen yn amhriodol, gan gynnwys talu dyledion cardiau credyd oedd yn werth £9,340 a bod ei gyflog wedi codi i £65,719 heb gymeradwyaeth y bwrdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012