Toriadau'n 'bygwth ymateb heddlu'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Gwnstabl sydd ar fin ymddeol yn dweud y gallai'r heddlu fethu ymateb i droseddau fel ymddygiad gwrth-gymdeithasol oherwydd effaith toriadau Llywodraeth y DU.
Dywedodd Ian Arundale o Heddlu Dyfed Powys bod llawer o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn dod gan bobl sydd â phroblemau iechyd a chymdeithasol yn hytrach na gan droseddwyr.
Mae ffigyrau gan BBC Cymru yn dangos bod heddluoedd Cymru yn derbyn cyfartaledd o 245 galwad bob dydd yn 2011 ynglŷn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mynnodd y Swyddfa Gartref ei bod yn iawn bod heddluoedd yn cyfrannu tuag at leihau'r ddyled genedlaethol.
Roedd llefarydd hefyd yn dadlau gyda'r honiad bod ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn drosedd "lefel isel".
Roedd Mr Arundale hefyd yn rhybuddio am dwf mewn "troseddau llymder" mewn rhai ardaloedd.
Ystadegau
Mae ystadegau'n dangos bod 89,702 o alwadau wedi cael eu derbyn gan heddluoedd Cymru yn 2011 oedd ddim yn rhai argyfwng.
Er bod hynny bron 18% yn llai nag yn 2010, mae Mr Arundale yn dweud nad yw'r ffigyrau'n adlewyrchu cymhlethdod y broblem.
Dywedodd pennaeth Heddlu Dyfed Powys, a fydd yn ymddeol ym mis Mehefin wedi 32 mlynedd fel plismon, bod newid wedi bod yn y rhesymau am ymddygiad gwrth-gymdeithasol tuag at alcohol, iechyd meddwl a phroblemau eraill.
"Yn aml rydym yn delio gyda phobl sydd ddim yn droseddwyr, ond allai fod â phroblemau iechyd sy'n achosi iddyn nhw ymddwyn mewn ffordd sy'n creu trallod i eraill," meddai.
"Ac mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o asiantaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
"Yn y dyddiau yma o lymder, mae'n anodd weithiau i gael y bobl iawn at ei gilydd sydd â'r adnoddau i ddelio gyda rhai o'r problemau yma."
'Teimlo'n ddiogel'
Dywedodd Mr Arundale bod cynllun llywodraeth y DU i dorri cyllidebau heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr o 20% yn cyfateb i gael gwared ag un o'r pedwar llu Cymreig yn gyfan gwbl, a rhybuddiodd y bydd yr effaith yn cael ei deimlo.
"Mewn rhannau eraill o'r wlad, rydym yn gweld cynnydd mewn bwrgleriaeth a throseddau treisgar," ychwanegodd.
"Yn ffodus mae'r rhan fwyaf o Gymru yn gweld llai o drosedd, ond mae mwy o droseddau llymder i'w gweld mewn rhannau o'r wlad, a'r cyfan y mae pobl am weld yw teimlo'n ddiogel wrth fynd allan ar y strydoedd a gweld eu heiddo mewn un darn wrth ddychwelyd adref.
"Nawr yn amlwg mae fy staff yn mynd i ganolbwyntio ar faterionargyfwng yn gyntaf. Y perygl wrth i'r toriadau frathu yw na fyddwn yn medru gwneud y gwaith ar y cyrion."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Wrth daclo yfed yn ein trefi a dinasoedd rydym yn cynorthwyo heddluoedd ar draws y wlad.
"NId yw'r llywodraeth yma yn ystyried ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn rhywbeth lefel isel - mae'n effeithio ar lawer gan ddifetha'u bywydau.
"Fel gwasanaeth sy'n gwario rhyw £14 biliwn y flwyddyn mae'n iawn i'r heddlu wneud cyfraniad tuag at leihau'r ddyled genedlaethol.
"Drwy gael gwared â thargedau canolog, biwrocratiaeth ac ati, rydym yn cynorthwyo heddluoedd i ganolbwyntio ar y rheng flaen a'u prif bwrpas - torri lefel troseddu."
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn pryderu am effaith toriadau llywodraeth y DU ar blismona ar allu heddluoedd Cymru i daclo troseddau lefel isel ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Dywedodd llefarydd: "Mae gan Lywodraeth Cymru record dda o weithio gyda heddluoedd Cymru, ac rydym yn falch o'r bartneriaeth gref sydd wedi ein galluogi i ariannu 500 o blismyn cymunedol cynorthwyol newydd mewn cymuendau ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012