Gostyngiad yn nifer y di-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd canolfan waith
Disgrifiad o’r llun,

Ar draws Prydain mae nifer y di-waith wedi gostwng o 50,000 i 2.53 miliwn

Mae 'na ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru.

Cafodd yr ystadegau diweddara eu cyhoeddi ddydd Mawrth ac mae'n dangos bod 125,000 heb waith rhwng mis Mehefin a mis Awst eleni.

Mae hyn yn ostyngiad o 7,000, ers y ffigurau diwethaf gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau fis yn ôl.

Ers yr un cyfnod y llynedd mae nifer y di-waith wedi gostwng 8,000.

Erbyn hyn, canran y di-waith yng Nghymru yw 8.3% tra bod 7.9% yng ngweddill Prydain ar gyfartaledd.

Ar draws Prydain mae nifer y di-waith wedi gostwng o 50,000 i 2.53 miliwn.

Ond roedd nifer y bobl yn hawlio lwfans ceisio gwaith yng Nghymru ym mis Medi wedi codi 200 i 79,700.

Mae nifer y bobl rhwng 18 oed a 24 oed sydd wedi bod yn ddi-waith yng Nghymru am fwy na blwyddyn wedi codi unwaith eto i 4,700 ym mis Medi o'i gymharu â 1,500 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol