Gwadu llofruddio bachgen 17 oed
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe, mae dyn 38 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen ysgol o'r brifddinas, er cael ei dalu i lofruddio dyn arall, wedi bod yn cyflwyno tystiolaeth yn ei amddiffyniad.
Fe ddywedodd Jason Richards nad oedd e wedi trywanu Aamir Siddiqi i farwolaeth yn ei gartref yn ardal y Rhath ddwy flynedd yn ôl.
Mae Ben Hope, 39, hefyd yn gwadu llofruddio'r bachgen 17 oed a cheisio llofruddio'i rieni.
Union bedwar mis ers dechrau'r achos, daeth Jason Richards i'r llys i wadu bod ganddo unrhyw beth i'w wneud â llofruddiaeth Aamir Siddiqi.
Cafodd y disgybl disglair 17 oed ei drywanu'n farw yn ei gartref ei hun yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2010.
Mygydau
Mae'r rheithgor wedi clywed i ddau ddyn yn gwisgo mygydau balaclava ddefnyddio cyllyll i ladd Aamir, a thrywanu ei rieni hefyd.
Ond yn y llys ddydd Mercher, fe ofynnodd bargyfreithiwr Jason Richards iddo, 'a wnaethoch chi lofruddio Aamir Siddiqi?'
'Naddo, nes i ddim', atebodd.
"Oeddech chi'n un o'r ddau ddyn aeth i gartref Aamir Siddiqi a'i drywanu e a'i rieni?"
"Nac oeddwn".
Cyffuriau
Fe glywodd y rheithgor bod Jason Richards wedi dechrau defnyddio cyffuriau yn 16 oed, a'i fod yn gaeth i heroin ers cyfnod yn y carchar yn 2004.
Mae'r erlyniad wedi honni i'r tad i ddau gymryd cyffuriau cyn gyrru i'r cartref hwn ar Ffordd Ninian mewn camgymeriad ofnadwy ar ddiwrnod llofruddiaeth Aamir Siddiqi.
Maen nhw'n dweud bod dyn busnes na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol wedi'i dalu e a Ben Hope i lofruddio cymydog oedd yn byw ar Ffordd Shirley gerllaw.
Fe ddywedodd Jason Richards wrth y rheithgor ei fod e'n nabod y dyn busnes sydd wedi'i gyhuddo o'i dalu e a Ben Hope i lofruddio Aamir Siddiqi, a'i fod yn arfer prynu heroin oddi wrtho.
Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi gyrru'r car volvo gafodd ei ddefnyddio i yrru nôl ac ymlaen i gartref Aamir Siddiqi yn y dyddiau cyn y llofruddiaeth.
Mae Jason Richards a Ben Hope, y ddau o Gaerdydd ac yn eu tridegau, yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac mae disgwyl i Jason Richards barhau i gyflwyno tystiolaeth ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012
- Cyhoeddwyd26 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012