Diffynnydd: 'Clywed am lofruddiaeth mewn tacsi'

  • Cyhoeddwyd
Jason Richards a Ben Hope - llun artist
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Richards a Ben Hope, y ddau o Gaerdydd ac yn eu tridegau, yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Dywed dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio llanc 17 oed mewn camgymeriad iddo glywed am y llofruddiaeth gan yrrwr tacsi.

Yn ôl Jason Richards, hwn oedd y tro cyntaf iddo ef wybod am lofruddiaeth Aamir Siddiqi yng Nghaerdydd.

Mae Mr Richards, 38 oed, a Ben Hope yn gwadu llofruddio'r bachgen yn ei gartref ar Ffordd Ninian.

Maen nhw hefyd yn gwadu ceisio llofruddio rhieni Aamir.

Dywed Mr Richards iddo fod mewn tacsi o Heol y Santes Fair i Ffordd y Gogledd oriau wedi'r digwyddiad.

"Clywais ychydig am beth oedd wedi digwydd gan y gyrrwr tacsi," meddai wrth Lys y Goron Abertawe.

Ffôn symudol

Eisoes mae wedi dweud wrth y llys ei fod adref yn ei gartref ar Ffordd y Gogledd pan lofruddiwyd Aamir. Mae cofnodion yn dangos fod ei ffôn symudol yn ei gartref ar adeg y llofruddiaeth.

Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae o'n honni iddo weld gwaed ar ddillad Mr Hope, yn fuan ar ôl llofruddiaeth Aamir.

Dywedodd i Mr Hope ddweud wrtho: "y lleiaf wyt ti'n ei wybod, gorau oll."

Gofynnodd John Charles Rees, sy'n amddiffyn Mr Richards, pam iddo fynd i dŷ Mr Hope ar Ffordd Richmond oriau wedi'r llofruddiaeth.

Dywedodd Mr Richards. "Os ydych chi'n smocio cocên rydych yn dioddef o baranoia.

"Roeddwn i moyn gwybod a oedd gan Ben rhywbeth i wneud â'r peth."

Dywedodd nad oedd Mr Hope yn fodlon dweud dim wrtho.

Honna'r erlyniad mai Mr Richards a Mr Hope yw'r llofruddion, ond eu bod wedi dewis y tŷ anghywir.

Cafodd Aamir ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref ym Mharch y Rhath yn Ebrill 2010.

Yn ôl yr erlyniad roedd gŵr busnes wedi talu Mr Richards a Mr Hope i lofruddio dyn oherwydd methiant cytundeb busnes.

Mae'r achos yn parhau.