April Jones: Grant i helpu ymchwiliad gwerth £2m

  • Cyhoeddwyd
April Jones a'i mam CoralFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

April Jones gyda'i mam Coral cyn ei diflaniad

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cytuno, mewn egwyddor, i roi grant arbennig i Heddlu Dyfed-Powys i'w cynorthwyo nhw gyda'r gwaith o chwilio am April Jones.

Mae'r ferch bump oed o Fachynlleth wedi bod ar goll am 10 wythnos.

Disgwylir i gost yr ymchwiliad fod dros £2 miliwn.

Mae dyn 47 oed yn y ddalfa yn aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o lofruddio a chipio'r ferch.

'Costau terfynol'

"Mae'r ymchwiliad yn parhau ond mae 'na ddisgwyl i'r gost fod rhwng £1.8 miliwn a £2.4 miliwn," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

"Mae caniatáu'r grant yn ddibynnol ar ein bod yn derbyn costau terfynol fydd yn cael eu harchwilio gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

"Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud wedi'r archwiliad yma."

Daw penderfyniad y Swyddfa Gartref ddiwrnod ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys ddweud y bydd gwaith chwilio am April yn parhau yn y flwyddyn newydd, ond y byddai'r gwaith yn lleihau dros gyfnod y Nadolig.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ian John wrth y wasg ddydd Mercher fod proffil uchel yr achos yn y wasg wedi cadw'r gwaith o chwilio am April yn llygad y cyhoedd.

"Mae 16 o dimau wedi bod wrthi'r wythnos hon eto ac ymhob tywydd ar hyd y mynyddoedd a dyffrynnoedd o gwmpas Machynlleth ar dir heriol."

Dywedodd y byddai'r chwilio yn parhau tan fod yr heddlu yn fodlon eu bod wedi dilyn pob trywydd.

"Nid ydym am roi cyfyngiad amser ar hynny," meddai, "ond rydym wedi ymrwymo i aros yma tan y gallwn fod yn siŵr nad oes mwy o leoedd posibl i chwilio am gorff April."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol