April Jones: Sefydlu gwasanaeth cynghori ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

April Jones gyda'i mam Coral cyn ei diflaniad

Mae gwasanaeth cynghori ar gyfer pobl y mae diflaniad April Jones wedi effeithio arnyn nhw wedi ei sefydlu ym Machynlleth.

Does neb wedi gweld y ferch bum mlwydd oed ers iddi ddiflannu wrth chwarae ger ei chartref yn y dref ar Hydref 1 2012.

Mae dyn 47 oed, Mark Bridger, yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio a chipio'r ferch.

Gwasanaeth Cynghori Eglwysi Cymru sy'n trefnu'r llinell gymorth a'r ganolfan galw heibio.

'Colled anferth'

Dywedodd cyfarwyddwr y gwsanaeth, Dr Susan Dale sy'n byw ym Machynlleth, mai'r rhan fwyaf o bobl oedd wedi gofyn am help hyd yn hyn oedd mamau ifanc.

"Dyma un o'r ymgyrchoedd chwilio mwyaf yn hanes yr heddlu yn y DU," meddai.

"Mae'r gymuned wedi bod mewn sioc ac mae 'na deimlad o golled anferth ... mae April yn dal ar goll."

Ychwanegodd ei bod wedi penderfynu sefydlu'r gwasanaeth wedi iddi siarad â swyddogion lles yr heddlu oedd wedi bod yn helpu'r rhai oedd yn chwilio am April.

Ailddechrau

Cafodd y llinell gymorth ei sefydlu yn Rhagfyr ac agorwyd y ganolfan galw heibio yn y dref cyn y Nadolig.

Mae dau uwchgynghorydd a 12 o bobl gyda sgiliau gwrando yn helpu Dr Dale.

Bydd yr heddlu yn ail ddechrau chwilio am April yr wythnos nesaf ar ôl lleihau'r chwilio am bythefnos dros y Nadolig.

Mae'r llinell gymorth ar gael rhwng dydd Mercher a dydd Gwener ar 0845 603 5525 ac mae'r ganolfan galw heibio ar agor bob dydd Mercher a dydd Sadwrn rhwng 2pm a 5pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol