Y frech goch: Clinigau ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
y brechiad MMRFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion iechyd yn bryderus fod cyn lleied o blant wedi cael y brechiad MMR yn ardal Abertawe

Mae meddygfa mewn ardal ble mae cannoedd o bobl wedi cael y frech goch o fewn yr wythnosau diwethaf yn cynnal clinigau ychwanegol i ateb y galw am frechiadau MMR.

Mae dros 400 o achosion o'r haint wedi eu cofnodi yn ardal Abertawe hyd yma.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pryderu am nifer y plant sydd heb gael eu brechu, ac wedi annog rhieni i sicrhau bod hynny yn digwydd yn ystod gwyliau'r Pasg.

Dywedodd Dr Dai Lloyd fod pobl wedi bod yn ciwio i gael y brechiad yn ei feddygfa yntau yn y ddinas.

Disgwyl cynnydd

Bydd y ffigyrau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi maes o law, ond mae arbenigwyr iechyd yn disgwyl y bydd nifer yr achosion wedi cynyddu eto.

Hyd yma mae trwch yr achosion wedi bod yn ardal Abertawe, ond fe ddaeth achosion i'r amlwg hefyd yn ardaloedd byrddau iechyd Powys a Hywel Dda.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Powys eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion, gyda'r mwyafrif yng ngogledd y sir.

Daeth 41 o achosion i'r amlwg ym mis Mawrth, gyda bron 20 yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Er mai plant o oed ysgol sydd wedi eu taro'n wael yn y rhan fwyaf o'r achosion sydd wedi eu cofnodi, roedd y bwrdd yn pwysleisio y gall yr haint daro pobl o bob oed.

Ym Mhowys, mae un o bob pedwar o bobl yn eu harddegau heb gael y ddau ddôs o'r brechiad MMR sydd eu hangen er mwyn cael imiwnedd i'r frech goch.

Cymhlethdodau

Yn ardal Abertawe, mae swyddogion iechyd yn dweud bod yr haint yn ymledu yn gyflym iawn, a bod dros 50 o bobl wedi gorfod mynd i'r ysbyty hyd yma.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cymhlethdodau yn gyffredin hyd yn oed mewn pobl iach, ac mae tua 20% o achosion o'r frech goch yn gallu arwain at un neu fwy o gymhlethdodau.

Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y frech goch "yn ymledu ar raddfa frawychus ar draws ardaloedd o Gymru".

Ychwanegodd fod un dôs o'r brechiad MMR yn gallu gwarchod 90% o blant yn gyflym, a bod y ddau ddôs yn gwarchod 99%.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol