Y Frech Goch: Mwy o glinigau yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Brechiad MMR
Disgrifiad o’r llun,

Bydd sawl clinig yn cynnig brechiad ddydd Sadwrn yn ardal Abertawe a thu hwnt

Am yr ail ddydd Sadwrn yn olynol mae clinigau arbennig wedi cael eu cynnal i gynnig brechiad MMR i bobl wedi cynnydd yn yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe.

Mae bron i 700 o achosion o'r haint wedi ei gofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Ond dywedodd Dr Meirion Evans o Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai'r nifer yna "ddyblu'n hawdd".

Dywedodd bod 40,000 o blant yng Nghymru yn dal heb gael eu brechu.

Y prif reswm am y nifer o achosion, yn ôl ICC, yw nad oes digon o blant rhwng 10 a 17 oed wedi cael eu brechu.

Mae'n bosib na fydd yr achosion yn cyrraedd y brig am fis arall.

Fe ddaw'r clinigau arbennig ddydd Sadwrn wythnos ar ôl i dros 1,700 o bobl gael eu brechu mewn clinigau arbennig.

Fe gafodd 1,700 o bobl eu brechu yn y clinigau yn Ysbytai Treforys a Singleton Abertawe, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Mwy o glinigau

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan hefyd wedi cynnig clinigau arbennig ddydd Sadwrn, ac fe gafodd 600 yn fwy eu brechu yn y clinigau yng Nghasnewydd ac Ystrad Mynach.

Cafodd clinigau arbennig yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu cynnal rhwng 10am a 4pm - un yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar Heol Casnewydd (mae angen defnyddio mynedfa Heol Longcross) a'r llall yng nghanolfan blant Ysbyty Llandochau.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru mai drwy ddau frechiad MMR mae amddiffyn yn erbyn salwch mwy difrifol o ran sgil effeithiau'r frech goch

Wrth i ysgolion yr ardal ail agor yr wythnos nesaf fe fydd timau o'r bwrdd iechyd yn targedu ysgolion o fewn yr ardal.

Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ni allwch fod yn ddi-hid o'r frech goch oherwydd nid oes modd dweud pwy fydd yn mynd ati i ddatblygu cymhlethdodau mwy difrifol fel niwmonia ac enseffalitis (yr ymennydd yn chwyddo). Y brechiad MMR yw'r unig amddiffyniad yn erbyn y cymhlethdodau hyn.

"Gan fod nifer yr achosion o'r frech goch bron yn 700, a 73 o'r achosion hynny wedi'u cofnodi yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn nad oes unrhyw arwydd bod yr haint hwn yn cilio.

"Rydym yn falch iawn o weld rhieni'n dechrau trefnu i'w plant gael eu brechu ond nid yw'r niferoedd yn ddigon i ddod â'r clefyd o dan reolaeth pan fo 6,000 o blant yn parhau i fod mewn perygl o ddal y frech goch yn ardal Abertawe yn unig.

"Rydym yn atgoffa rhieni nad dim ond sôn am blant bach a fyddai'n cael eu brechiadau MMR yn y dyfodol agos beth bynnag yr ydym - mae angen i ni weld mwy o blant hŷn sydd nad ydynt wedi cael eu brechu yn y gorffennol yn dod ymlaen i gael eu brechu nawr, a hynny ar fyrder.

"Rydym yn bryderus iawn am blant heb eu brechu yn y grŵp oedran 10 i 14 oed. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y dosau MMR a gollwyd yn y gorffennol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol