David Cameron i gwrdd â rhieni April Jones

  • Cyhoeddwyd
Mark BridgerFfynhonnell y llun, Police
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llofrudd April Jones, Mark Bridger, wedi chwilio ar y we am ddelweddau o gamdrin plant a threisio

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi cytuno i gwrdd â rhieni April Jones wedi iddyn nhw alw arno i weithredu'n bersonol yn erbyn delweddau anweddus o blant ar y we.

Mae'r mater yn bwnc llosg ers iddi ddod i'r amlwg fod llofrudd April Jones, Mark Bridger - a garcharwyd am oes fis diwetha' - wedi chwilio ar y we am ddelweddau o gamdrin plant a threisio.

Dywedodd Paul a Coral Jones o Fachynlleth nad oedd Llywodraeth y DU yn gwneud digon i blismona'r rhyngrwyd.

Yn ôl gweinidogion, roedd y cyfarfod yn Whitehall ddydd Mawrth i drafod delweddau anghyfreithlon ar y we wedi arwain at ganlyniadau pendant.

Byddai cytundebau gyda chwmnïau mwya'r we yn arwain at "newid sylfaenol", meddai llefarydd.

'Cydymdeimlo'n ddwys'

Wrth ateb cwestiynau yn uwchgynhadledd yr G8, dywedodd Mr Cameron ei fod wedi cytuno i gwrdd â rhieni April Jones.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â nhw yn sgil eu colled ofnadwy ac rwyf yn hapus iawn i gwrdd â nhw," meddai.

Roedd cwmnïau fel Google a Microsoft wedi cael eu galw i'r cyfarfod wedi galwadau iddyn nhw wneud mwy i atal deunydd anghyfreithlon rhag ymddangos ar-lein.

Fe addawodd Mr Cameron roi pwysau ar gwmnïau i wneud hyn yn fwy o flaenoriaeth.

Am y tro cyntaf bydd corff a gyllidir gan y diwydiant, yr Internet Watch Foundation, yn cael rôl ragweithiol mewn chwilio am ddelweddau o gamdrin plant, yn hytrach na dim ond ymateb i adroddiadau y maen nhw'n eu derbyn.

'Erchyll'

Mae'r cwmniau hefyd wedi cytuno i roi miliwn o bunnau'n ychwanegol i'r sefydliad.

Yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller oedd yn cadeirio'r cyfarfod ac roedd cynrychiolwyr o gwmnïau fel Yahoo!, Google, Microsoft, Twitter, Facebook, BT, Sky, Virgin Media, TalkTalk, Vodafone, 02, EE a Three yn bresennol.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Mrs Miller : "Mae delweddau o gamdrin plant yn erchyll ac mae pryder y cyhoedd wedi ei gwneud hi'n glir fod yn rhaid i'r diwydiant weithredu. Digon yw digon."

Bu'r gynhadledd hefyd yn trafod sut i sicrhau nad oedd plant yn gweld deunydd pornograffig.

Mae'r Gymdeithas Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd yn dweud y dylai systemau ffiltro fod ar gael yn ehangach ond maent yn gwrthwynebu cyflwyno cyfyngiadau awtomatig, gan y byddai modd i bobl ddileu'r cyfyngiadau hynny.

Addysgu rhieni

Mae'r gymdeithas hefyd yn dadlau y dylid addysgu rhieni a rhoi'r gallu iddyn nhw wneud dewisiadau diogel.

Dywedodd y gymdeithas y bydden nhw'n defnyddio'r cyfarfod yn Downing Street i bwysleisio bod y diwydiant eisoes yn gweithredu i atal delweddau o gam-drin plant a deunydd anghyfreithlon, a'u dileu nhw mewn cydweithrediad â'r heddlu.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud nad yw'n deall pam bod yna ddelweddau na fyddai yn cael ymddangos mewn cylchgronau i'w gweld ar y rhyngrwyd ac y byddai'n taclo'r mater hyd "eithaf ei allu".

Ddechrau'r mis dywedodd: "Mae yna rai sydd o'r farn na ddylid defnyddio sensoriaeth gyda'r we. Dydw i ddim o'r farn honno pan mae'n dod at, ymysg pethau eraill, pornograffi plant.

"Alla i ddim gweld unrhyw fudd mewn gadael i bobl weld pethau yn ddilyffethair a fyddai yn drosedd pe bydden nhw'n cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau. Dw i ddim yn deall hynny."