Glaw dros nos a mwy i ddod

  • Cyhoeddwyd
Bus going through flood water
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd hefyd y gallai'r dŵr gronni ar y ffyrdd unwaith eto

Daeth rhybudd arall gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y gallai glaw trwm ddydd Calan achosi llifogydd mewn sawl man ar draws Cymru.

Yn dilyn cyfnodau hir o law trwm parhaus dros y Nadolig, mae'r corff yn credu y gallai rhagor o law ddydd Mercher achosi llifogydd lleol.

Mae nifer o ardaloedd yn y gorllewin eisoes wedi dioddef o lifogydd gyda'r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu galw i Dref Asser, Brynaman Uchaf a Chwmgors.

Mae'r tywydd garw a gyrhaeddodd rannau o'r wlad dros nos yn debyg o bara tan ganol y prynhawn cyn symud i ffwrdd tua'r gogledd ddwyrain.

Roedd disgwyl i gawodydd stormus - gyda chenllysg a tharanau - fod wedi tewi erbyn y wawr ar Ddydd Calan, ond fe ddywed y Swyddfa Dywydd, dolen allanol y bydd band arall o law trwm a pharhaus ledaenu tua'r gogledd ddwyrain yn ystod y bore gyda'r gwyntoedd yn cryfhau i fod yn gryf iawn erbyn dechrau'r prynhawn.

Angen bod yn ofalus

Mae'r tywydd garw yn effeithio ar wasanaethau trenau mewn rhai ardaloedd.

Does dim gwasanaeth rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf na rhwng Casnewydd a'r Henffordd oherwydd llifogydd.

Mae trenau'n rhedeg rhwng Henffordd a Chasnewydd ond mae Trenau Arriva Cymru'n rhybuddio eu bod nhw'n cael eu hoedi.

Bydd manylion pellach ynglŷn â'r effaith ar wasanaethau tren i'w cael ar wefan Trenau Arriva Cymru, dolen allanol tra mae gwybodaeth am y ffyrdd yn cael ei ddiweddaru'n aml ar wefan deithio'r BBC.

Mae CNC hefyd yn rhybuddio pobl sy'n byw ger glannau'r de a'r gorllewin i baratoi dros y dyddiau nesaf gan fod cyfuniad o wyntoedd cryfion a llanwau uchel yn debyg o achosi tonnau mawrion.

Bore Calan roedd un rhybudd llifogydd mewn grym, sef yn nyffryn Dyfrdwy isaf rhwng Llangollen a Threfalun.

Roedd hefyd 12 o ragrybuddion i baratoi am lifogydd, yn bennaf ar hyd arfordir y de a'r gorllewin, ond un hefyd ar hyd arfordir y gogledd o aber y Ddyfrdwy hyd at ddwyrain Ynys Môn.

Mae CNC yn disgwyl tywydd mawr ar hyd y glannau ac ar ffyrdd y glannau gan fygwth llifogydd yn yr ardaloedd hynny.

Fe fydd swyddogion CNC yn cadw golwg er mwyn sicrhau nad oes sbwriel yn yr afonydd allai achosi llifogydd ar ffyrdd yn lleol, ac maen nhw'n rhybuddio pobl hefyd i beidio ceisio cerdded na gyrru drwy lifogydd.

Bydd rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru'n gyson ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol drwy gydol y dydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol