Covid-19: Pryder y bydd pwysau eto ar y Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Drakeford yn poeni am ymlediad yr haint o fewn cymunedau

Wrth i'r rhan fwyaf o Gymru wynebu wythnos arall o gyfyngiadau lleol dywed y prif weinidog ei fod yn poeni'n fawr am y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 yng Nghymru.

Dywed Mark Drakeford ei fod yn ofni bod y Gwasanaeth Iechyd ar fin wynebu pwysau tebyg i'r hyn oedd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn.

Ddydd Llun mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyhoeddi cyfyngiadau llymach mewn ardaloedd yn Lloegr - yn eu plith dinas Lerpwl.

Mae pobl mewn 17 ardal yng Nghymru yn wynebu cyfyngiadau lleol wedi i'r haint ymledu. Bangor yw'r ardal ddiweddaraf i wynebu cyfyngiadau - fe ddaethant i rym yno nos Sadwrn.

Mae yna drafodaethau wedi bod yn ystod y penwythnos ar a ddylid cymryd camau yn ardaloedd eraill yng Ngwynedd - Arfon a Dwyfor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yn ninas Bangor dros y penwythnos

Roedd yna 467 achos newydd wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul.

Dywedodd Mark Drakeford fod nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion sydd â choronafeirws wedi "cynyddu yn raddol dros yr wythnosau diwethaf".

Ychwanegodd nad oedd o'r farn fod "Cymru yn yr un sefyllfa â dros y ffin yn Lloegr... ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o gysur mawr".

Mae Mr Drakeford yn credu bod yr haint yn lledu fwyaf o fewn y gymuned, yn hytrach nag yn y sector lletygarwch.

"Oni bai ein bod yn gallu gwyrdroi achosion coronafeirws yn y gymuned, byddwn yn gweld ein gwasanaeth iechyd yn dod o dan bwysau sylweddol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant wedi cofnodi 25 o farwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws

Ddydd Llun yn Lloegr, mae disgwyl i Boris Johnson gyflwyno system tair haen a fydd yn seiliedig ar ddwyster yr haint mewn gwahanol ardaloedd.

Hyd yma mae Mr Johnson wedi gwrthod galwad gan Mr Drakeford i rwystro pobl rhag teithio i Gymru o fannau yn Lloegr lle mae nifer uchel o achosion.

Yng Nghymru does gan bobl mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym ddim hawl i adael heb esgus digonol.

Rhif R yn codi

Dywedodd Mr Drakeford: "Pe baem yn clywed ddydd Llun fod ardaloedd yn Lloegr, lle mae nifer yr achosion yn uchel, yn dilyn canllawiau tebyg i Gymru byddai hynny yn rhyddhad mawr i ni."

Ar draws y DU mae amcangyfrif fod y rhif R - sef y nifer o bobl ar gyfartaledd y mae person heintus yn trosglwyddo Covid iddo - rhwng 1.2 ac 1.5.

Mae unrhyw rif sy'n uwch nag 1.0 yn golygu bod nifer yr achosion yn cynyddu.

Mae disgwyl i Mr Johnson ddweud y bydd rhannau o ogledd a chanolbarth Lloegr yn wynebu cyfyngiadau pellach.

Yn Lerpwl mae disgwyl y bydd tafarndai'r ddinas yn cael gorchymyn i gau am gyfnod wrth i 600 achos ym mhob 100,000 o bobl gael eu cofnodi.