Vaughan Gething yn addo ehangu gofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn cyhoeddi ei faniffesto yng Ngholeg Cambria Wrecsam ddydd Sadwrn

Mae Vaughan Gething wedi addo ehangu'r cynnig o ofal plant am ddim i deuluoedd pe bai'n cael ei ethol yn brif weinidog nesaf Cymru.

Bu'r gweinidog economi yn lansio ei faniffesto ddydd Sadwrn, gan ddweud y bydd ei addewidion yn galluogi i rieni "weithio neu ddysgu fel y mynnant".

Dywedodd y byddai'n rhoi hwb i'r economi trwy roi'r cronfeydd sydd wedi cymryd lle rhai'r Undeb Ewropeaidd tuag at gynlluniau prentisiaethau.

Ychwanegodd hefyd y byddai'n gweithio i leddfu traffig ar yr M4 a mynd i'r afael â tomenni glo anniogel.

Mr Gething a gweinidog y Gymraeg ac addysg, Jeremy Miles yw'r ddau yn y ras i olynu Mark Drakeford pan fydd yn ildio'r awenau ym mis Mawrth.

Mr Miles sydd wedi ennill cefnogaeth y mwyafrif o aelodau Llafur yn y Senedd, ond ni fydd y bleidlais ymysg aelodau Llafur Cymru yn agor tan 16 Chwefror.

'Dechrau cryf i holl blant Cymru'

Roedd Mr Gething yn cyhoeddi ei faniffesto yng Ngholeg Cambria Wrecsam ddydd Sadwrn, ble bu'n addo cyflwyno "cynnig gofal plant estynedig", ond mae'n dweud mai "wrth i gyllid ddod ar gael" y bydd hynny'n digwydd.

"Byddwn yn rhoi dechrau cryf i holl blant Cymru, waeth beth fo'u cefndir, tra hefyd yn galluogi rhieni i weithio neu ddysgu fel y mynnant," meddai.

"Ni ddylai costau gofal plant fod yn dal pobl yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018

Dywedodd Mr Gething: "Rwy'n deall sut beth yw hi i boeni am gostau gofal plant.

"Rwy'n deall sut beth yw hi i boeni os ydych chi am ddychwelyd i'r gwaith, neu fynd i weithio am y tro cyntaf.

"Ar y funud mae rhieni plant tair a phedair oed yn gymwys. Rydw i eisiau gwneud mwy yn gymwys ar gyfer oedran iau hefyd.

"Bydd hynny'n helpu rhieni, sydd wrth gwrs, yn mynd trwy argyfwng costau byw."

Ychwanegodd Mr Gething ei fod eisiau i'r cyhoedd ymwneud yn fwy â'r materion sydd o bwys yn genedlaethol fel trafnidiaeth.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles sydd wedi ennill cefnogaeth y mwyafrif o aelodau Llafur yn y Senedd

Mae gan Mr Gething bump "addewid allweddol" os yw'n cael ei ethol fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog Cymru.

Y rheiny ydy rhoi blaenoriaeth i gyllidebau'r gwasanaeth iechyd, creu swyddi gwyrdd, cyflymu adeiladu tai cymdeithasol, cynnig cyfleoedd addysgol i bobl o bob oed, a chael mwy o bwerau i Gymru.

'Ymrwymo i gau'r bwlch cyrhaeddiad'

Dywedodd y byddai'n defnyddio "dylanwad swyddfa'r prif weinidog i gyflawni rhagoriaeth yn ein hysgolion a'n colegau".

"Mae plant ysgol Cymru yn dal i deimlo effeithiau addysgol a chymdeithasol y pandemig Covid," meddai.

"Rydym yn ymrwymo i gau'r bwlch cyrhaeddiad a mynd i'r afael â'r cynnydd mewn absenoldebau ac ymddygiad aflonyddgar mewn ysgolion drwy ganolbwyntio ar gymorth i deuluoedd."

Ychwaneodd Mr Gething y byddai'n gwario Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - sydd wedi cymryd lle'r arian roedd Cymru'n arfer ei dderbyn gan yr UE - ar brentisiaethau er mwyn "hybu economi Cymru a chyfleoedd swyddi pobl ifanc".

Dywedodd hefyd ei fod wedi cael sicrwydd gan Blaid Lafur y DU y bydden nhw yn "dychwelyd" yr arian o'r cronfeydd i Lywodraeth Cymru os ydyn nhw'n dod i rym yn San Steffan.