Vaughan Gething yn addo 'mwy o swyddi gwyrdd a chyfleoedd'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018

Mae Vaughan Gething yn addo "mwy o swyddi gwyrdd o safon a chyfleoedd" wrth lansio ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur ac yn Brif Weinidog.

Dywedodd Gweinidog yr Economi "er mwyn creu Cymru decach a chael pobl allan o dlodi" mae'n rhaid i Gymru "fachu ar y cyfle i fuddsoddi mewn diwydiannau sy'n ymwneud ag ynni glân".

Mae Mr Gething yn un o ddau ymgeisydd i olynu Mark Drakeford fel Prif Weinidog.

Mae Jeremy Miles, Y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg hefyd yn sefyll yn y ras arweinyddiaeth.

'Mwy o swyddi sy'n talu'n dda'

Fe wnaeth Mr Gething lansio ei ymgyrch mewn canolfan dechnoleg ar gyfer busnesau bach a busnesau newydd yng Nghasnewydd ddydd Llun.

Creu mwy o swyddi sy'n talu'n dda mewn diwydiannau sydd hefyd yn helpu Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd fydd ei "genhadaeth ganolog" os caiff ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru a dod yn Brif Weinidog, yn ôl Mr Gething.

Mae'n dweud y byddai'n annog buddsoddiad cyhoeddus a phreifat o fewn diwydiannau gwyrdd, drwy osod "amodau gwyrdd" ar gefnogaeth ariannol cyhoeddus a chreu hybiau ar gyfer cwmnïau gwyrdd i greu mwy o swyddi lleol sy'n talu'n dda.

Vaughan Gething oedd y Gweinidog Iechyd yn ystod pandemig Covid ac mae wedi cynrychioli De Caerdydd a Phenarth ers 2011.

Yn yr ymgyrch hyd yma mae wedi dweud y byddai'n adolygu polisi 20mya Llywodraeth Cymru, ac mae wedi ymrwymo i wario cymaint y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol ag sy'n cael ei wario yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles, y gweinidog addysg, yw'r ymgeisydd arall yn ras yr arweinyddiaeth

Ddydd Sadwrn wythnos diwethaf fe lansiodd Jeremy Miles ei ymgyrch gydag addewid i gynyddu y ganran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei wario ar ysgolion a mynd i'r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd y byddai'n adeiladu canolfannau orthopedig arbenigol ar gyfer llawdriniaethau clun a phen-glin er mwyn mynd i'r afael â rhestrau aros.