Covid: 'Synhwyrol' pe bai cyngor ynghynt i ganslo gêm
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai wedi bod yn synhwyrol pe bai Llywodraeth Cymru wedi cynghori yn erbyn cynnal digwyddiadau mawr ar drothwy'r cyfnod clo Covid cyntaf, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU yng Nghaerdydd ddydd Llun bu Syr Frank Atherton yn trafod y sefyllfa cyn y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a'r Alban ym mis Mawrth 2020.
Fe gafodd y gêm ei chanslo yn y pen draw gan Undeb Rygbi Cymru, ond dim tan y diwrnod cynt, pan oedd miloedd o Albanwyr eisoes wedi teithio i Gaerdydd ar gyfer yr ornest ar 14 Mawrth.
Dywedodd Syr Frank Atherton eu bod ar y pryd yn dilyn y cyfarwyddyd gan SAGE - corff oedd yn cynnig cyngor gwyddonol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ond o edrych yn ôl, byddai cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o bosib wedi rhoi arwydd clir i'r cyhoedd, meddai.
Mae hefyd wedi bod yn rhoi tystiolaeth am ryddhau cleifion ysbyty i gartrefi gofal heb yr anghenraid o gael prawf Covid negyddol.
Clywodd yr ymchwiliad bod Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ar 11 Mawrth yn poeni am y gêm Chwe Gwlad yn mynd yn ei blaen.
Ond penderfynodd y llywodraeth bryd hynny adael i'r gêm gael ei chwarae, cyn newid eu meddyliau ddiwrnod cyn y gêm.
Yn Yr Alban, roedd y llywodraeth wedi gwahardd digwyddiadau o fwy na 500 o bobl er mwyn osgoi rhoi pwysau ar y gwasanaethau brys.
O edrych yn ôl, meddai Syr Frank, dylai hynny wedi bod yn ystyriaeth yng Nghymru hefyd.
Dywedodd bod y mater wedi codi "negeseuon y dylen ni eu dysgu ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol".
Dywedodd Dr Rob Orford, prif gynghorydd gwyddonol iechyd y llywodraeth y byddai "wedi gwneud synnwyr" i ganslo'r digwyddiad wrth edrych yn ôl.
Er efallai nad oedd y risg o ddigwyddiadau unigol yn sylweddol, roedd bwrw ymlaen yn rhoi argraff i'r cyhoedd bod pethau'n iawn, meddai.
Clywodd yr ymchwiliad bod Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn meddwl bod cyfnodau clo lleol fel welwyd yn Nghaerffili ym Medi 2020 yn "arbrawf oedd wedi methu".
Fe gytunodd Dr Orford bod y rheolau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol wedi cymhlethu pethau.
Dywedodd: "Efallai nad oedden nhw y syniad gorau."
Dywedodd hefyd y byddai wedi bod yn well cael clo byr yn gynt yn Hydref 2020 ond roedd y penderfyniad i weinidogion yn un anodd.
Pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi darparu cefnogaeth ariannol, mae'n bosib y byddai modd cael cyfnod clo hirach, meddai.
Fe fuodd Syr Frank hefyd yn ateb cwestiynau am orchuddion wyneb ac yn esbonio pam nad oedd Cymru wedi gorfodi eu defnydd mewn mannau cyhoeddus fel archfarchnadoedd tan fis Medi 2020.
Dywedodd nad oedd y dystiolaeth wyddonol o'u plaid yn gryf ar y pryd, ond mai ei farn nawr oedd y byddai wedi bod yn well pe bai Cymru wedi dilyn yr un trywydd â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig a'u gwneud yn orfodol ynghynt.
Roedd y sefyllfa yn ddryslyd i'r cyhoedd, meddai.
Er nad oedd Syr Frank yn meddwl y byddai wedi bod yn bosib osgoi mynd mewn i gyfnod clo ar 23 Mawrth, dywedodd y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod wedi ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru.
Cafodd ei holi am y tro cyntaf y cafodd coronafeirws ei drafod yng nghabinet Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror, a chofnod yn dweud bod y gweinidog iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, wedi dweud bod dim achosion ym Mhrydain.
Ond roedd cyfarfod COBRA - corff sydd yn delio gydag argyfyngau cenedlaethol - ar 18 Chwefror wedi clywed bod o leiaf naw achos.
Fe wnaeth Syr Frank gydnabod bod yn rhaid bod y wybodaeth gan y gweinidog i gabinet Cymru yn anghywir.
Yn gyffredinol, byddai wedi bod yn well pe bai Covid wedi ei weld fel mater i'r llywodraeth gyfan yn gynt, yn hytrach na'n fater iechyd, meddai.
Dywedodd fod hynny, o edrych yn ôl, yn "gamgymeriad".
Soniodd hefyd fod pwysau ar y llywodraeth wrth ddelio gyda llifogydd ac effeithiau Brexit ar ddechrau 2020.
Gwelodd yr ymchwiliad nodyn yn llawysgrifen Syr Frank o haf 2020 gyda'r gair "omnishambles".
Dywedodd fod hynny'n adlewyrchu ei rwystredigaeth gyda gwybodaeth ar lefel y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru yn hwyr.
Profion cyn mynd i gartrefi gofal?
Doedd "dim dewis arall mwy diogel" na rhyddhau cleifion ysbyty i gartrefi gofal heb fod angen prawf Covid negyddol, ychwanegodd Syr Frank Atherton wrth roi tystiolaeth.
Ar 8 Ebrill 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau yn dweud nad oedd angen profi pobl cyn eu trosglwyddo i gartrefi gofal.
Clywodd yr ymchwiliad am nodyn gan ddirprwy brif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Margaret Rooney, yn codi pryderon.
Dywedodd Syr Frank: "Y farn gyffredin oedd y dylai cartrefi gofal allu rheoli achosion o glefyd heintus drwy ynysu pobl yno.
"Nid oedd hynny'n benderfyniad hawdd i weinidogion nac i unrhyw un ei wneud, ond roedd yng nghyd-destun y risg y byddai ysbytai'n cael eu gorlwytho'n llwyr."
Dywedodd y gallai cleifion oedrannus fod wedi bod yn asymptomatig yn yr ysbyty ond bod perygl y gallen nhw "aros yn yr ysbyty a chael eu heintio".
Clywodd yr ymchwiliad, sy'n parhau, fod y canllawiau wedi newid wythnos yn ddiweddarach.
Yn ddiweddarach, clywodd yr ymchwiliad gan y prif was sifil ar y pryd, a ddywedodd bod ap negeseuon WhatsApp wedi ei wahardd ar ffonau symudol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Fonesig Shan Morgan nad oedd y cyfrwng i fod i gael ei ddefnyddio i drafod polisi neu i wneud penderfyniadau.
Roedd hi'n bwysig cadw cofnod cyhoeddus ar gyfer y llywodraeth ond hefyd ar gyfer unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, meddai.
Dywedodd nad oedd y rheolau yn gwahardd WhatsApp ar ffonau personol, a clywodd yr ymchwiliad bod y Fonesig Morgan ei hun mewn grŵp gyda chyfarwyddwr cyffredinol y llywodraeth.
Dywedodd bod "rhai pethau yn dderbyniol ar WhatsApp ond doedd unrhyw fath o drafodaeth neu benderfyniadau polisi ddim yn dderbyniol."
Pan ofynnodd cwnsler yr ymchwiliad, Tom Poole KC, iddi am ei ymateb i dystiolaeth bod prif ymghynghorydd arbennig Prif Weinidog Cymru, Jane Runeckles wedi gosod trefn i sicrhau bod negeseuon yn diflannu ar sgwrs WhatsApp gweinidogion yn Nhachwedd 2021, dywedodd ei bod hi "yn synnu" gan fod y canllawiau'n glir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024