Adolygiad yn cefnogi rheoliadau dadleuol taenu tail

Tractor yn lledaenu gwrtiath mewn caeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau llymach ar wasgaru a storio tail wedi'u cyflwyno'n raddol ers 2021, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn y diwydiant amaethyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygiad annibynnol wedi cefnogi rheoliadau dadleuol ar gyfer taenu tail ar ffermydd ledled Cymru, ond yn dweud bod angen gwelliannau.

Mae rheolau llymach ar wasgaru a storio tail wedi'u cyflwyno'n raddol ers 2021, yn erbyn gwrthwynebiad ffyrnig gan y diwydiant ffermio.

Mae astudiaeth wedi darganfod bod "cyfleoedd sylweddol" i dargedu'r rheolau yn well a'u gwneud yn gliriach.

Ond daeth i'r casgliad eu bod yn angenrheidiol yn y pen draw i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithredu'r holl argymhellion yn llawn, er y byddai rhai yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni.

'Bygwth rhai busnesau'

Mae'r rheoliadau diweddar ar Reoli Llygredd Amaethyddol wedi bod yn destun dadl yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf.

Roedden nhw'n un o nifer o ffactorau a gafodd eu nodi gan ffermwyr yn ystod protestiadau eang yn erbyn Llywodraeth Cymru drwy gydol mis Chwefror 2024.

Mae grwpiau afonydd a bywyd gwyllt wedi galw'n gyson am weithredu llymach, wrth i astudiaethau ddangos bod dŵr ffo o ffermydd yn cyfrannu'n fawr at faterion ansawdd dŵr ledled y wlad.

Ar un adeg roedd maint y broblem yn cael ei disgrifio fel "embaras", gan y cyn-weinidog materion gwledig, Lesley Griffiths.

Rhaid i ffermydd gael gwerth pum mis o gapasiti storio slyri ac nid yw'r rhan fwyaf bellach yn cael taenu tail eu hanifeiliaid am dri mis o ganol mis Hydref bob blwyddyn.

Mae faint o dail sy'n gallu cael ei wasgaru fesul hectar yn gyfyngedig hefyd.

Mae undebau'n honni bod y rheoliadau'n bygwth dyfodol rhai busnesau ffermio, sydd naill ai'n gorfod buddsoddi'n drwm i wella'r storfa slyri neu leihau nifer eu da byw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar sut yr oedd y rheoliadau'n gweithio bob pedair blynedd, ac fe gafodd Dr Susannah Bolton, Is-Bennaeth Coleg Gwledig yr Alban ei phenodi i gadeirio'r adolygiad cyntaf.

Mae ei hadroddiad wedi canfod, er bod y dull rheoleiddio presennol yn gadarn, y gellid gwneud gwelliannau er budd ffermwyr a'r amgylchedd.

Penderfynodd fod dull Cymru gyfan yn iawn, ond y gellid targedu'r rheoliadau'n well fel bod ffermydd sy'n cynnal gweithgareddau a oedd â llai o risg o achosi llygredd yn wynebu llai o gyfyngiadau.

Roedd yn annog y llywodraeth i archwilio "mesurau amgen" i rai o'r agweddau mwyaf dadleuol hefyd - gan gynnwys y gwaharddiad llwyr ar wasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf.

Er bod caniatáu i ffermwyr wasgaru yn ôl amodau ac anghenion eu cnydau yn ychwanegu mwy o gymhlethdod o ran cofnodi, daeth i'r casgliad bod hwn yn ddull gwerth ei ddefnyddio.

I rai ffermwyr, mae'n codi'r posibilrwydd o newid un o'r agweddau y maen nhw'n anghytuno fwyaf ag ef yn y polisi.

Maen nhw wedi dadlau ers tro y byddai cael dyddiadau calendr anhyblyg ar gyfer caniatáu taenu slyri yn achosi problemau.

Daeth Dr Bolton i'r casgliad bod angen gwella hygyrchedd ac eglurder y rheoliadau i ffermwyr, tra bod angen mynd i'r afael â bylchau yn y rheolau - gan gynnwys mesurau diogelu pridd a chynllunio rheoli maetholion hefyd.

Tractor yn lledaenu gwrtiath mewn caeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu rhoi'r holl argymhellion ar waith

Dywedodd fod y gwaith wedi "dangos bod yna ddyheadau cryf yn cael eu rhannu ar gyfer gwella ansawdd dŵr yng Nghymru".

"Dwi'n wirioneddol obeithiol y bydd y newidiadau sy'n cael eu hargymell... yn galluogi mwy o weithredu cyffredin a rhannu cyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r heriau," ychwanegodd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod "ansawdd dŵr yng Nghymru yn dal i gael ei effeithio'n andwyol ac mae'n rhaid parhau i wneud gwelliannau".

"Er nad yw achosion llygredd yn gyfyngedig i unrhyw un sector, mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o'r prif gyfranwyr," ychwanegodd.

"Mae'r adolygiad yn cytuno â'n hagwedd gyffredinol at y rheoliadau ond mae hefyd yn dangos ffyrdd y gallwn wella pethau i ffermwyr a'n hamgylchedd. Rwy'n bwriadu rhoi'r holl argymhellion hyn ar waith."

Nododd Llywodraeth Cymru y bydd rhai newidiadau, ynghylch gwneud y rheoliadau'n fwy hygyrch a chliriach, "yn cael eu gweithredu'n gyflym".

Ond bydd "argymhellion mwy cymhleth sy'n gofyn am arbenigedd gwyddonol ac agronomeg yn cymryd mwy o amser i'w datblygu", meddai.

'Rhwystredig'

Wrth ymateb dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru eu bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhaglen waith dros y misoedd nesa yn amlinellu sut y bydd yr argymhellion yn yr adolygiad yn cael eu gweithredu.

Dywedodd Llywydd yr FUW, Alan Rickman bod "cydweithio gyda'r diwydiant ffermio yn hanfodol er mwyn i'r sector gael hyder hir-dymor".

Ond mae undeb NFU wedi dweud eu bod yn rhwystredig â "methiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau brys i'r rheoliadau yn dilyn yr adolygiad".

Dywedodd llywydd yr undeb yng Nghymru, Aled Jones: "Mae ffermwyr wedi aros pedair blynedd am yr adolygiad yma, felly mae'n rhwystredig iawn bod ymateb Llywodraeth Cymru wedi methu ag adlewyrchu anobaith ffermwyr wrth geisio mynd i'r afael â chymhlethdod ac anymarferoldeb y rheoliadau."

Dywedodd mudiad amgylcheddol WWF Cymru bod yr adolygiad yn tanlinellu'r angen brys i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i weithredu mesurau i leihau achosion o lygredd amaethyddol, yn ogystal â chael cynllun ffermio cynaliadwy sy'n annog gweithredu i leihau llygredd er mwyn helpu i wella iechyd afonydd Cymru.

"Wrth i ni barhau i weld adroddiadau sy'n dangos dirywiad yn iechyd afonydd a bioamrywiaeth yng Nghymru, rydym yn pwysleisio bod angen i unrhyw ymateb i'r argymhellion leihau ymhellach unrhyw berygl o lygredd amaethyddol, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder er mwyn bod ag unrhyw obaith o adfywio ein hafonydd."