Brawd a chwaer yn sefydlu gwefan i 'annog mwy i fynd i gigs Cymraeg'

Jona a Martha Owen o'r Felinheli yw sylfaenwyr y wefan 'Awni?'
- Cyhoeddwyd
Mae brawd a chwaer o'r Felinheli wedi sefydlu gwefan newydd sy'n mapio gigs Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gwefan 'Awni?' yn dangos lle a phryd mae'r digwyddiadau yn cael eu cynnal, a sut mae modd mynd ati i brynu tocynnau ar eu cyfer.
Dywedodd Martha Owen, un o'r sylfaenwyr, ei bod yn gobeithio y bydd y wefan hon yn "datrys y broblem" o bobl yn colli allan ar gigs Cymraeg.
Erbyn heddiw mae 133 o gigs ar y map, ac mae modd i unrhyw un hysbysebu gig drwy gysylltu â nhw ar e-bost., dolen allanol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Martha fod hyrwyddo gigs yn medru bod yn heriol a'i bod yn gobeithio y bydd y wefan yn hwyluso'r broses.
"Ma' marchnata gigs mor ar wasgar achos bod 'na gymaint o blatfformau gwahanol," meddai.
"Mae'n dibynnu lle oedd y trefnwyr yn dewis hysbysebu ac ella 'sa nhw'n colli allan ar gynulleidfa."
Dywedodd ei bod yn eithaf difyr gweld lle mae'r gwahanol gigs wedi eu lleoli ar draws Cymru, ac o bosib bod hynny yn adlewyrchu'r mannau "lle mae angen mwy o gyllid i hybu gigs Cymraeg".
A hithau'n hoff iawn o fynd i gigs a theithio ar draws Cymru wrth wneud hynny, dywedodd ei bod yn "annog pobl i neud yr un fath".
"Mae 'na gymaint dros Gymru, dim jyst yn dy ardal leol di."

Mae 133 o gigs Cymraeg yn cael eu hysbysebu ar y wefan ar hyn o bryd
Gobaith Jona a Martha Owen ydi y bydd y wefan yn ganolbwynt i wybodaeth am gigs Cymraeg a thrwy hynny yn annog mwy o bobl i fynd i'r gigs.
"Mae 'na links i'r tocynnau i gyd ar y wefan, weithia' mae'n anodd ffeindio heina, maen nhw'n cuddio ar y we, felly os allwn ni helpu mwy o drefnwyr i gael bach mwy o docynnau wedi gwerthu, mae hynny'n grêt."
Dywedodd Martha iddyn nhw "dderbyn cefnogaeth gan Sain drwy gronfa her Arfor a bydd hwnna'n help mawr i ni wrth gynnal y wefan a datblygu'r syniad ymhellach."
Ychwanegodd fod modd i drefnwyr gigs gysylltu â nhw drwy e-bost er mwyn cynnwys gig ar y map.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr