4% o fyfyrwyr sy'n astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg

Myfyrwyr yn graddioFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer y myfyrwyr a astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2022/23 3% yn is o'i gymharu â 2021/22

  • Cyhoeddwyd

Dim ond 4% o fyfyrwyr addysg uwch Cymru astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2022/23, er bod 13% o'r holl fyfyrwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Yn ôl adroddiad newydd, dim ond 1% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg ym mhynciau daearyddiaeth, peirianneg a gwyddorau ffisegol, a 0% yng ngwyddorau milfeddygol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod yr angen i greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu a hyfforddi drwy'r Gymraeg yn ein prifysgolion".

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod yr ystadegau "yn tanlinellu'r angen i gynllunio a buddsoddi ymhellach i roi cyfeiriad clir i sefydliadau addysg bellach ac uwch".

Daw'r ystadegau o adroddiad ar y Gymraeg mewn addysg uwch 2022/23 gan Medr, y corff hyd braich o dan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol.

Gostyngodd nifer y myfyrwyr a astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg 3% o'i gymharu â 2021/22 a 5% o'i gymharu â 2020/21, ond roedd yn dal i fod yn nifer uwch nag yn y tair blynedd cyn 2020/21.

Beth yw credyd?

Credydau yw'r unedau y mae prifysgolion yn eu defnyddio i ddangos maint y modiwl sy'n cael ei astudio.

Mae un credyd yn 10 awr o waith, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a'r gwaith o baratoi asesiadau neu baratoi at arholiadau.

Felly byddai 200 awr o waith yn cael ei wneud mewn modiwl 20 credyd.

Dros flwyddyn lawn arferol, mae disgwyl i fyfyrwyr israddedig gwblhau 120 o gredydau.

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol bwysig i bobl ifanc Cymru" meddai Efa Gruffudd Jones

Roedd 154,385 o gofrestriadau yn 2022/23, gyda 4% o'r rhain (6,825) yn astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg.

Dyma ystadegau eraill yn yr adroddiad:

  • Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf pum credyd yn Gymraeg i 3% yn 2022/23, a oedd yn is nag yn unrhyw un o'r pum mlynedd flaenorol.

  • Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf 120 o gredydau yn Gymraeg islaw 1% yn 2022/23, a oedd yn is nag unrhyw un o'r pum mlynedd flaenorol.

  • Cynyddodd nifer y staff addysgu a oedd â chytundeb i addysgu yn Gymraeg 1% i 565 yn 2022/23 ar ôl gostwng o un flwyddyn i'r llall ers 2018/19.

  • Cynyddodd nifer y myfyrwyr ôl-radd a astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg 65% rhwng 2017/18 a 2022/23.

Y darparwyr â'r cyfrannau mwyaf o fyfyrwyr yn gwneud o leiaf un credyd yn Gymraeg oedd Grŵp Llandrillo Menai (31%), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (18%) a Phrifysgol Bangor (13%).

Prifysgol De Cymru oedd â'r gyfran leiaf (llai nag 1%) o fyfyrwyr yn astudio yn Gymraeg o blith yr holl sefydliadau addysg uwch.

Coleg MenaiFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Mae 31% o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud o leiaf un credyd yn Gymraeg

Addysg ac addysgu oedd y pwnc â'r nifer uchaf a'r gyfran fwyaf o fyfyrwyr yn astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg (1,225) - sef 16% o'r myfyrwyr a astudiodd y pwnc.

Dylunio, a'r celfyddydau creadigol a pherfformio oedd y pwnc â'r ail nifer uchaf (970) a'r ail gyfran fwyaf (14%) o fyfyrwyr yn astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg.

Dim ond 2% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg ym meysydd y cyfryngau, newyddiaduraeth a chyfathrebu, busnes a rheoli, pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio, cyfrifiadura a seicoleg.

Roedd 13% o'r holl fyfyrwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Prifysgol Bangor (35%) a Phrifysgol Aberystwyth (31%) oedd â'r cyfrannau mwyaf o fyfyrwyr a oedd yn hanu o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o fyfyrwyr yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl (1,665).

'Cydnabod yr angen i greu mwy o gyfleoedd'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, fod "gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol bwysig i bobl ifanc Cymru".

Ychwanegodd fod yr ystadegau diweddaraf "yn tanlinellu'r angen i gynllunio a buddsoddi ymhellach i roi cyfeiriad clir i sefydliadau addysg bellach ac uwch fynd ati'n rhagweithiol i gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg".

"Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Medr sydd, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn datblygu strategaeth newydd i ddatblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddisgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Rydyn ni'n cydnabod yr angen i greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu a hyfforddi drwy'r Gymraeg yn ein prifysgolion.

"Mae Medr wrthi'n datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r addysg Gymraeg ôl-16 sy'n cael ei darparu, a'r gwaith o'i hyrwyddo.

"Rydyn ni hefyd yn rhoi cyllid i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo'r ddarpariaeth addysg bellach ac uwch Gymraeg."