'Gwell pobl na fi i arwain S4C yn barhaol' - prif weithredwr dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr dros dro S4C yn dweud na fydd yn ymgeisio i gael y swydd yn barhaol, gan awgrymu bod "'na ddigon o bobl ddawnus" all wneud y gwaith.
Mewn sgwrs ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Sioned Wiliam, ei bod "yn edrych ymlaen at fynd nôl at lenydda" ar ôl derbyn gwahoddiad yn y gwanwyn i lywio'r sianel dros dro yn dilyn cyfnod cythryblus.
Fe dalodd y sianel £564,000 i gwmni gyfreithiol am adroddiad yn ymchwilio "i ddiwylliant o fwlio ac ofn" o fewn S4C.
Ychwanegodd Ms Wiliam ei bod yn "gobeithio fydd y swydd yn apelio nawr" yn dilyn misoedd o "sefydlogi ac adeiladu pontydd".
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
'Braint gael bod yn rhan o'r stori'
Dywedodd ei bod yn "hapus iawn" fel cyfarwyddwr anweithredol Cwmni Da pan ddaeth trafferthion o fewn S4C i'r amlwg, gan arwain at ddiswyddiadau'r prif weithredwr, Sian Doyle a'r Prif Swyddog Cynnwys, Llinos Griffin-Williams.
Er "chi wastad yn clywed sïon" o fewn y diwydiant, meddai, dywedodd nad oedd "yn gw'bod gymaint â hynny [a] ges i fraw falle pan glywais i bod pethe'n ddrwg a bod lleisie'n dechre dweud bod S4C ddim yn gallu rhedeg eu hunain a bod y sianel mewn perygl".
Mae'r sianel, meddai, "yn golygu lot i fi" - fel gwyliwr, cyfrannwr a mam yn magu teulu Cymraeg yn Llundain.
"Ynghyd ag Ysgol Gymraeg Llundain, fe ganiataodd S4C i gadw Macsen, fy mab, yn rhugl yn y Gymraeg," dywedodd.
Dyna pam, meddai, "'nes i deimlo bod e'n fraint ca'l bod yn rhan o'r stori" pan ffoniodd y cadeirydd ar y pryd, Rhodri Williams, yn gofyn iddi fod yn brif weithredwr dros dro, "a falle gwneud rhywbeth i helpu".
Ers ei phenodiad, mae wedi gweithio i wireddu cynllun gweithredol newydd bwrdd y sianel a "wi'n falch i ddweud bod ni 'di 'neud cynnydd sylweddol ar y gwaith yna".
Mae'r seicolegydd Dr Ioan Rees, o'r rhaglen Ffit Cymru, wedi helpu trwy "edrych ar arweinyddiaeth a dycnwch o fewn y cwmni".
Mae hi hefyd wedi mynd ati i gwrdd ag aelodau staff "un wrth un ac mewn grwpiau".
Cyfeiriodd at ddigwyddiad "cwrdd i ffwrdd" oedd yn gyfle i staff S4C, sydd â swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd, gymdeithasu a rhannu sut maen nhw'n teimlo ynghylch diwylliant y gweithle erbyn hyn.
"Beth y'n ni'n trio gwneud yw ymosod mewn sawl ffordd ar y broblem, a wi'n eithaf ffyddiog bod ni wedi gwneud gwahaniaeth a bod pobl yn hapusach," meddai.
"Dyna'r adborth y'n ni'n ga'l ond ry'n ni wrth gwrs yn bwrw ymlaen, yn teimlo bod mwy o waith i'w wneud ac yn cario 'mlaen gyda'r gwaith."
Er i rai awgrymu "chi'n mynd i ffau'r llewod" wrth dderbyn gwahoddiad S4C, "mae'r hyn oedden i'n disgwyl yn eitha' gwahanol, mewn gwirionedd," meddai.
"Yn sicr, mae yna ystod eang o deimlade am y cyfnod heriol a fu - mae angen bod yn onest am hynny, a wi wedi trafod nifer fawr o wahanol senarios gyda pobol.
"Ond ma' pobol wedi cael cyfle i fwrw bol a fi'n gobeithio bod ni'n gallu symud ymlaen i le lle mae pobol jyst yn gallu 'neud y gwaith creadigol."
Yn ôl Sioned Wiliam fe gafodd "rhai o'r rhaglenni gora' 'wi 'di gweld ar y sianel" eu datblygu a'u cynhyrchu "yn ystod y cyfnod heriol", gan gynnwys y cyfresi Ar Brawf, Y Llinell Las a Creisis.
Rhywbeth arall sy'n ei rhyfeddu yw "angerdd" staff S4C, a'r "math o agosatrwydd" i'w chynulleidfa na welodd, meddai, yn ei chyfnodau gyda'r BBC ac ITV.
Dywedodd bod "ansawdd y rhaglenni yn siarad dros eu hunain", ac "os" roedd helbul S4C wedi niweidio cysylltiadau'r sianel gyda Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am faterion darlledu, a chysylltiadau rhyngwladol "wi ddim yn credu bod e nawr".
- Cyhoeddwyd7 Awst
Dywedodd yn bendant nad yw awydd parhau fel prif weithredwr parhaol S4C, a'i bod ond yn aros nes fydd y swydd wedi ei llenwi.
"Mae'r penhelwyr wedi dechra' ar y gwaith - wi'n credu fydd 'na hysbyseb yn mynd allan cyn bo hir, o fewn yr wythnose nesa' 'ma nawr.
"Na, dwi ddim yn mynd i drio amdano fe achos sgwennu llyfre a chynhyrchu comedi dwi'n 'neud.
"Fi'n credu bod isie rhywun â'r skill set cywir, sydd â gweledigaeth am y dair blynedd i ddod o ran y dyfodol digidol, y tirwedd cymhleth sydd o'n blaene ni gyd fel darlledwyr ym mhob sianel.
"A mae 'na ddigon o bobl dawnus allan yna alle 'neud y swydd yna.
"Dwi'n gobeithio fydd y swydd yn apelio nawr gan bod ni 'di 'neud lot o'r gwaith anodd 'na o sefydlogi ac adeiladu pontydd.
"Ond yn bersonol... dwi'n edrych ymlaen at fynd nôl at lenydda... dwi jyst ddim yn y lle cywir yn fy mywyd i ymgymryd â swydd tair blynedd mewn gwirionedd... a wi'n credu bod 'na well pobl allan yna hefyd."