Torïaid yn absennol ar gyfer dadl ar ymddygiad cyn-arweinydd

Ymddiswyddodd Andrew RT Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y llynedd
- Cyhoeddwyd
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn absennol yn y Senedd ddydd Mawrth ar gyfer dadl am ymddygiad eu cyn-arweinydd.
Daeth pwyllgor i'r penderfyniad bod Andrew RT Davies wedi torri'r cod ymddygiad, ond nad oes angen cymryd rhagor o gamau yn ei erbyn.
Roedd hynny am iddo fethu â dweud ei fod yn ffermwr wrth ofyn cwestiynau am dreth etifeddiant.
Gwadodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi cynnal boicot pan nad oedd yr un o'r grŵp o 16 yn bresennol yn y drafodaeth, ond fe wnaeth yr AS Llafur Lee Waters eu cyhuddo o watwar proses ddisgyblu'r Senedd.
Yn ddiweddarach fe wnaeth y Ceidwadwyr gefnogi adroddiad y pwyllgor safonau ar ôl i Lee Waters orfodi pleidlais.

Roedd meinciau'r Torïaid yn wag pan gafodd yr adroddiad ar Andrew RT Davies ei drafod
Roedd pwyllgor safonau'r Senedd o'r farn "bod methu â chydymffurfio â'r rheolau sefydlog yn fater difrifol".
"Mae methu â datgan buddiant perthnasol wrth siarad yn y cyfarfod llawn yn achosi problemau, gan fod y pwyllgor yn credu bod tryloywder yn egwyddor bwysig y dylai pob aelod weithio i'w chynnal.
"Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweinyddiaeth drwy eu gweithredoedd."
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Ychwanegodd y pwyllgor bod y comisiynydd safonau a'r pwyllgor wedi ymdrin â "nifer o gwynion yn ymwneud â'r aelod yn ystod y chweched senedd, ac mae pob un ohonynt o natur gymharol fach".
"Mae torri'r cod dro ar ôl tro, hyd yn oed o natur fach, yn peri pryder i'r pwyllgor hwn ac yn awgrymu bod y penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn cael eu diystyru.
"Pe byddai'r pwyllgor yn canfod bod yr aelod wedi torri'r cod ymddygiad yn y dyfodol, bydd cyfanswm yr achosion o dorri'r cod gan yr aelod yn cael eu hystyried, sy'n debygol o arwain at argymell sancsiwn sy'n adlewyrchu cyfanswm yr achosion o dorri'r cod."
Roedd y pwyllgor "yn fodlon bod yr eglurhad a ddarparwyd gan yr aelod dros beidio â datgan o ganlyniad i gamddehongli yn hytrach na cheisio celu buddiant yn bwrpasol".
Fe ymddiswyddodd Mr Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ym mis Rhagfyr, ac fe gafodd ei olynu gan Darren Millar.