Lucy Cowley yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Daw Lucy Cowley yn wreiddiol o Is-y-coed yn Wrecsam - cartref yr Eisteddfod eleni
- Cyhoeddwyd
Lucy Cowley sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2025.
Daw'n wreiddiol o Is-y-coed yn Wrecsam - cartref yr Eisteddfod eleni - ac mae bellach yn byw yn Llangollen.
Cafodd ei gwobrwyo ar lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddydd Mercher.
Y tri arall oedd ar y rhestr fer oedd Rachel Bedwin sy'n byw yn ardal Bangor, Hammad Hassan Rind sy'n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy'n byw ym Mhrestatyn.
Pwy ydy Lucy Cowley?
Er ei bod hi wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, 'doedd Lucy ddim yn hyderus.
Ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu'r iaith gyda'r plant.
Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth.
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
Mae hi'n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy'n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol - rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ailafael yn eu Cymraeg.
Mae'n cynllunio gemwaith, a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a'i nain yn ffoadur o Wcráin.
Dywedodd Lucy Cowley wrth BBC Cymru Fyw wedi'r seremoni ei bod "dal mewn sioc"
Dywedodd Lucy ar ôl y seremoni ei bod dal mewn sioc.
"Dwi'n falch iawn. Wnes i erioed feddwl faswn yn ennill, ac i wneud hynny yn Is-y-coed, mae'n wych.
"Rwy'n emosiynol iawn does dim gair i ddisgrifio sut dwi'n teimlo.
"Mae ennill hwn yn golygu'r byd i mi. Rwy'n byw yn lleol ac yn gweithio'n lleol ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn ffitio fewn.
"Dwi'n siarad hefo acen Saesneg a doeddwn ddim yn siarad Cymraeg.
"Doedd pobl ddim yn deall pam roeddwn i'n dysgu Cymraeg, ond dwi mor falch fy mod wedi gwneud."

Rachel Bedwin, Hammad Hassan Rind a Leanne Parry oedd y tri arall oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.
Mae'r enillydd yn derbyn tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Mae'r tri arall a oedd yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Dod i 'nabod y pedwar ddaeth i'r brig
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf