Athrawon yn 'poeni am fynd i'w gwaith' oherwydd ymddygiad plant
- Cyhoeddwyd
Mae rhai athrawon yn wynebu "trais ac ymddygiad ymosodol" gan ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth, yn ôl un undeb addysg.
Mae NASUWT yn dweud bod rhai o'u haelodau yn poeni am fynd i'r gwaith o ganlyniad.
Daw eu sylwadau wrth i ffigyrau newydd ddangos bod nifer y gwaharddiadau yn ysgolion Cymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n edrych ar gynigion i wella ymddygiad, gan gynnwys, o bosib, cynnal uwch-gynhadledd y flwyddyn nesaf.
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd26 Mai 2024
Roedd mwy na 30,842 o waharddiadau am gyfnod o bum diwrnod neu lai, yn ôl ffigyrau cyfrifiad ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23.
Dros yr un cyfnod, fe gynyddodd y gyfradd a gafodd eu gwahardd fesul 1,000 o ddisgyblion i 65.
41 neu lai oedd y ffigwr yn y blynyddoedd cyn y pandemig.
Y prif resymau oedd ymddygiad aflonyddgar parhaus (28%) a cham-drin geiriol a bygythiadau i staff.
Roedd y cyfraddau gwaharddiad ar eu huchaf ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Sir Ddinbych.
Roedd gan y siroedd hynny bron i dair gwaith a hanner yn fwy o ddisgyblion oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim, o'i gymharu ag ardaloedd eraill.
Fe ddangosodd y ffigyrau hefyd bod nifer y gwaharddiadau parhaol ar ei lefel uchaf erioed.
Roedd 415 o waharddiadau o'r fath yn 2022-23 - cynnydd o draean o’i gymharu â’r flwyddyn gynt a mwy na dwbl y ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi cyn 2017.
Dywedodd undeb NASUWT fod rhai o'u haelodau yn wynebu "cam-drin geiriol, trais ac ymddygiad ymosodol" gan ddisgyblion.
Yn ôl Sion Amlyn, swyddog polisi'r undeb, dydi'r ffigyrau ddim yn syndod.
“Mae’n aelodau ni yn naturiol yn poeni am fynd mewn i’w gwaith ac yn meddwl am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd,” meddai.
“Dim dyna ddylai ddigwydd.
"Ddylech chi gael mynd i’ch gwaith, gwneud diwrnod gonest o waith, a dod adref at eich teulu heb fod unrhyw ddigwyddiadau erchyll wedi digwydd."
Mae’r ffigyrau yn genedlaethol yn “amlwg yn bryder”, yn ôl Trystan Edwards, pennaeth Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd.
“Mae’n rhaid i ni gael syniadau newydd a ffres i fynd i’r afael â hyn ar gyfer y dyfodol," meddai.
Ychwanegodd fod cyfnod Covid wedi cael effaith sylweddol ar ddisgyblion.
“Dwi’n meddwl ei fod wedi bod yn gyfnod ansicr iawn i ddisgyblion lle y collon nhw strwythur dydd i ddydd, ac mae hynny wedi cael effaith andwyol.”
'Unrhyw fath o drais yn annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dim ond fel "dewis olaf" y dylid defnyddio gwaharddiadau.
"Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff neu ddysgwyr yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol," meddai.
"Dylai ysgolion fod yn fannau diogel i ddysgwyr a staff ac mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu amgylchedd dysgu diogel.
"Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion i wella ymddygiad, gan gynnwys cynnal uwchgynhadledd o bosibl y flwyddyn nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024