Bryn Fôn yn gwrthod cynnig Eisteddfod dros 'ddiffyg parch' Medal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Mae Bryn Fôn yn dweud ei fod wedi gwrthod gwahoddiad i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf yn sgil y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd.
Mae galwadau yn parhau ar yr Eisteddfod Genedlaethol i fod yn fwy tryloyw yn sgil gohirio'r seremoni yn Eisteddfod Pontypridd.
Dywedodd Bryn Fôn "na allai gael ei weld yn cefnogi a chymryd arian gan yr Eisteddfod tra ar yr un pryd yn cwestiynu ac yn protestio yn erbyn y ffordd y diddymwyd seremoni'r fedal ddrama yn Rhondda Cynon Taf".
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod yn "parchu ei benderfyniad".
Yn Wrecsam mae'r brifwyl yn cael ei chynnal yn 2025.
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2018
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ddydd Gwener, dywedodd Bryn Fôn bod 'na "ddiffyg parch ofnadwy at y ddrama gan yr Eisteddfod".
Ag yntau wedi bod yn ceisio mynnu atebion gan yr Eisteddfod ynghylch canslo'r seremoni, dywedodd ei fod yn "teimlo bach o hypocrite os fyswn ni wedi derbyn gwahoddiad yr Eisteddfod i berfformio ac wedi cymryd cyflog gan yr Eisteddfod ar un llaw ac ar y llaw arall 'mod i wrthi yn protestio ac yn dal i ofyn iddyn nhw am atebion i'r sefyllfa o ohirio seremoni'r Fedal Ddrama".
"Sut mae awduron y dyfodol fod i feddwl am gystadlu eto achos bod y peryg yma fod y pethe maen nhw am sgwennu yn torri deddf gwlad."
Aeth ymlaen i ddweud fod yr Eisteddfod yn "rhoi datganiadau annelwig a dim wir yn dweud wrthym ni beth sydd wedi digwydd".
Dywedodd nad rhywbeth o'r newydd yw agwedd yr Eisteddfod at fyd y ddrama, a'i fod "wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd... mae 'na ddiffyg parch tuag at y ddrama.. 'di'r dramâu buddugol ddim wedi cael eu parchu".
'Angen sgwrs agored' ac 'eglurhad llawn'
Dywedodd fod gohirio'r seremoni wedi arwain at sawl awdur blaenllaw yn "meddwl ddwywaith" dros gystadlu eto.
"Mae o'n lot o waith i sgwennu drama ac i gael ei thrin fel 'na wedyn, mae'n annheg iawn."
Dywedodd mai gwrthod y gwahoddiad oedd "yr unig ffordd oedd gynno' fi i ddangos 'mod i ddim yn hapus efo'r sefyllfa fel ag y mae".
Aeth ymlaen i ddweud bod angen "sgwrs agored, eglurhad llawn am beth sydd wedi mynd ymlaen".
"Cefnogwyr yr Eisteddfod ydan ni, 'da ni isio gweld yr Eisteddfod ar ei gorau, da ni ddim yn g'neud hyn er mwyn tynnu sylw at ein hunain, da ni mond yn 'neud o er lles y ddrama yng Nghymru."
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Cafodd Bryn Fôn gynnig i chwarae ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Wrecsam y flwyddyn nesaf.
"Gwrthododd y cynnig i berfformio ar sail ei egwyddorion, ac rydyn ni'n parchu ei benderfyniad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd8 Awst