Gwasanaethau lleol 'mewn perygl o ddiflanu' erbyn 2020

  • Cyhoeddwyd

Fe allai llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Cymru ddiflanu cyn diwedd y degawd, yn ôl y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Mae'r Gymdeithas, sy'n cynrychioli cynghorau Cymru a Lloegr, yn rhybuddio y bydd yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau 'poblogaidd' 90% yn llai mewn termau real erbyn 2020.

Mae adroddiad ganddynt yn dweud y bydd yn rhaid canolbwyntio ar wasanaethau craidd dros y blynyddoedd nesa' os na fyddan nhw'n cael rhagor o arian.

Costau cynyddol gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill, fel casglu gwastraff a'r system drafnidiaeth, sy'n cael y bai.

Dengys yr adroddiad, sydd wedi'i seilio ar amcangyfrifon ceidwadol, y bydd 'na ddiffyg o £16.5bn rhwng yr arian sydd ar gael i gynghorau i ddarparu gwasanaethau a'r costau i'w cynnal ar y lefel bresennol - oni bai bod y system yn cael ei hailwampio ar frys.

£16.5bn

Mae'r gostyngiad o 28% yng nghyllid cyngorau gan Lywodraeth San Steffan rhwng 2010/11 a 2014/15 wedi cyfrannu'n helaeth at y sefyllfa, meddai'r Gymdeithas.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r diffyg o £16.5bn olygu bod yn rhaid cwtogi'n arw, a hyd yn oed gael gwared yn llwyr ar rai gwasanaethau.

O'r herwydd, maen nhw'n galw ar y llywodraeth i ad-drefnu'r drefn o dalu am ofal cymdeithasol, ac i roi'r gallu i gynghorau gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau lleol.

Yn ogystal mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen newid sylfaenol yn y gofynion ar gynghorau, ac asesu'r disgwyliadau sydd gan drigolion o'u hawdurdodau lleol.

Mae'r adroddiad yn nodi'r prif bwyntiau canlynol:

  • Mae costau cynyddol gofal cymdeithasol a gwasanaethau gwastraff yn golygu fod yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau eraill yn gostwng o £24.5bn yn 2010/11 i £8.4bn yn 2019/20.

  • Mae'r bwlch rhwng yr arian sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau a'r gost a amcangyfrifir ar gyfer eu cynnal yn dechrau ar £1.4bn yn 2012/13, gan gynyddu pob blwyddyn i £16.5bn erbyn 2019/20.

  • Bydd y gwariant ar ofal yn codi i o leiaf 45% o gyllidebau cynghorau erbyn 2019/20.

  • Fydd gwella effeithlonrwydd ddim yn ddigon i ddelio gyda'r bwlch mewn cyllid. Yn 2010/11, roedd y gost o ddarparu prif wasanaethau - sy'n cynnwys costau adeiladu, gweinyddol a Thechnoleg Gwybodaeth - tua £3bn. Mae'r toriadau fyddai eu hangen i wasanaethau cyngor heblaw am ofal a gwastraff yn bump gwaith y ffigwr hwnnw.

Afrealistig?

Mae adroddiad y Gymdeithas yn seiliedig ar amcangyfrifon ceidwadol iawn o ran pwysau costau tebygol, ac asesiad optimistaidd o ran incwm awdurdodau lleol.

Maen nhw hefyd yn dibynnu ar gynghorau'n gallu cynnal arbedion tebyg i'r rhai sydd eisoes wedi'u cyflwyno - oedd yn cynnwys torri 200,000 o swyddi. Mewn realiti, bydd arbedion o'r fath yn anodd iawn i'w cynnal, meddai'r Gymdeithas.

Dywedodd Syr Merrick Cockell, cadeirydd y Gymdeithas:

"Erbyn diwedd y degawd, gallai cynghorau gael eu gorfodi i gael gwared ar rai o'u gwasanaethau mwya' poblogaidd os nad ydyn nhw'n cymryd camau brys i ddelio â'r argyfwng o ran ariannu gofal cymdeithasol.

"Fydd arbedion ddim yn ddigon i gwrdd â'r broblem. Rydym angen rhoi arian ar frys i'r system gofal oedolion er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol yn y tymor byr, yn ogystal ag adolygiad llwyr o'r dull o ariannu'r gofal yn y dyfodol.

"Llywodraeth leol sydd yn y lel gorau i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n cynnig urddas i'r unigolyn a gwerth am arian i drethdalwyr. Mae'n rhaid bod mewn sefyllfa i wneud hynny tra'n darparu'r gwasanaethau eraill y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl.

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards wrth BBC Cymru fod angen trafodaeth bwysig ynglŷn â'r gwasanaethau y dylai awdurdodau lleol fod yn eu darparu i'r cyhoedd.

Gyda mwy o alw am wasanaethau cymdeithasol a gofal, dywedodd ei bod yn anorfod y byddai 'na bwysau mawr ar gyllidebau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Awgrymodd y dylid edrych ar ffurfio partneriaethau gyda chyrff neu gynghorau eraill er mwyn diogelu rhai gwasanaethau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol