Mesur ynni newydd: Llai o ddibyniaeth ar danwydd ffosil
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi Mesur Ynni sy'n amlinellu ffyrdd o foderneiddio'r system cynhyrchu trydan.
Bydd rhan fwya'r buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r mesur yn datblygu ynni "carbon isel".
Cynnydd ym mhris biliau cwsmeriaid fydd yn talu'n rhannol am hynny.
Mae mudiadau defnyddwyr wedi dweud eu bod yn ofni y bydd hynny'n arwain at fwy o dlodi ymlith pobl sydd yn ei chael hi'n anodd talu biliau.
Un elfen bwysig yn y mesur yw faint yn fwy y bydd y cwmniau ynni yn ei godi ar eu cwsmeriaid er mwyn medru buddsoddi mewn ynni gwyrdd.
Biliau'n codi
Mae rhai yn amcangyfri y gallai biliau ynni pob cartre godi rhwng £95 a £110 y flwyddyn.
Er bod ymgyrchwyr amgylcheddol yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth i ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddol, maen nhw yn dweud nad yw'r mesur yn mynd yn ddigon pell.
Eisoes mae anghytuno wedi yn y llywodraeth glymblaid yn San Steffan ynglŷn â chynnwys y mesur.
Yn ôl rhai, hwn fydd y newid mwyaf yn y broses gynhyrchu trydan ers degawdau.
Mae galw wedi bod am gynlluniau newydd gan fod pwerdai glo a niwclear yn dod i ddiwedd eu hoes.
Gan fod pris ynni'n codi a biliau cwsmeriaid yn adlewyrchu hynny, un o brif anghenion y mesur yw sicrhau ffynonellau ynni'r dyfodol.
Amau gwerth
Mae yna drafodaethau am atomfeydd niwclear newydd ond mi fydd hi'n rai blynyddoedd cyn y bydd unrhyw orsaf o'r fath yn gallu cynhyrchu trydan.
Mae ynni adnewyddol yn un ffordd felly o sicrhau y bydd digon o drydan i gartrefi erbyn diwedd y degawd hwn.
Ond mae rhai Ceidwadwyr ar y meinciau cefn yn amau gwerth tyrbinau gwynt.
Mae protestiadau mewn sawl rhan o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos nad peth hawdd yw sefydlu ffermydd gwynt yng nghefn gwlad.
Mae'r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey, wedi penderfynu gohirio cyhoeddi targed i leihau allyriadau carbon yn y diwydiant ynni tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.
'Cefnogi'
Dywedodd y byddai diwydiannau ynni-ddwys fel cynhyrchwyr haearn a sment yn cael eu hesgusodi rhag talu costau ychwanegol yn sgil mesurau i annog mwy o fuddsoddi mewn deunyddiau carbon isel newydd.
"Ni ddylai datgarboneiddio fod yn gyfystyr â dad-ddiwydiannu," meddai Mr Davey.
"Bydd yr esgusodiad hwn yn sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig yn dal yn gallu cefnogi economi carbon isel."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata: "Mae'n anochel i ni ddefnyddio llawer o ynni ac rydym yn gwario 60% yn fwy ar ynni na'n cystadleuwyr yn Ewrop.
"Bydd unrhywbeth fydd yn dechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn ein helpu ond dydyn ni ddim yn gwybod eto sut y bydd y newidiadau yn gwneud hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012