Ed Holden i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd
Fe fydd rapiwr a cherddor o Wynedd yn teithio i'r Almaen ddydd Iau ar gyfer cystadleuaeth beatbocsio'r byd.
Penllanw blynyddoedd o waith caled yn meithrin y grefft o ddefnyddio ei geg ai wddf i gynhyrchu cerddoriaeth yw'r daith hon i Ed Holden o Lanfrothen.
Mae Ed, sy'n wreiddiol o ogledd Ynys Môn yn gyn-aelod o'r bandiau hip-hop Genod Droog a Pep le Pew.
Cyn teithio i Berlin ddydd Iau, dywedodd wrth Cymru Fyw y buasai llwyddiant yn y gystadleuaeth yn gallu gyrru ei yrfa gerddorol i "lefel arall".