Dirwy i ddyn am beidio cadw draw o'i dŷ wedi tirlithriad

  • Cyhoeddwyd
Richard Morrison
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Morrison wedi gwario tua £20,000 yn brwydro yn erbyn gorchymyn yr awdurdod

Mae dyn wedi cael dirwy o £100 ar ôl gwrthod cadw draw o'i gartref yn Ystalyfera wedi iddo gael ei daro gan dirlithriad.

Cafodd Richard Morrison orchymyn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i adael ei gartref ar Heol Cyfyng yn 2017 wedi i swyddogion ddweud y byddai aros yn yr ardal yn fygythiad.

Fe wnaeth Morrison ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, ble cyfaddefodd wneud gwaith strwythurol ar ei dŷ er bod gorchymyn mewn lle iddo gadw draw.

Cafodd ei orchymyn i dalu dirwy o £100 a chostau ychwanegol o £20.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o dirlithriadau wedi digwydd yn yr ardal yn y gorffennol

Dywedodd Ian Ibrahim ar ran yr erlyniad bod Morrison wedi cynnal gwaith ar ei gartref heb ganiatâd y cyngor, er bod tri tirlithriad wedi achosi "cannoedd o dunelli" o bridd i symud o amgylch ei dŷ ef a'i gymdogion.

Ychwanegodd Mr Ibrahim bod trigolion y 10 cartref arall ar y stryd wedi gadael, ond bod Morrison wedi'i weld gan weithwyr y cyngor ar ddau achlysur yn ystod haf 2018.

Fe wnaeth Morrison gyfaddef ei fod wedi cyflogi "peirianwyr a gweithwyr eraill" i gymryd golwg ar ei dŷ, ond dywedodd ei fod yn credu bod y cyngor eisiau iddo wneud hyn i amddiffyn ei gartref rhag unrhyw dirlithriadau eraill yn y dyfodol.

"Mae'r tŷ wedi bod yn union yr un safle ers 150 mlynedd. Dyna pam doeddwn i ddim yn credu y byddai'n rhaid i mi ofyn am ganiatâd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr erlyniad bod trigolion y 10 cartref arall ar y stryd wedi cadw draw

Dywedodd Hasan Hasan - peiriannydd strwythurol gyda'r cyngor - bod yr awdurdod wedi gwario tua £1.3m i geisio sefydlogi'r tir yn yr ardal.

Ond ychwanegodd bod un o'r tirlithdriadau wedi achosi i ran o ardd Morrison i symud, a bod y patio wedi "cwympo tua metr a hanner".

Mae Morrison wedi dweud wrth BBC Cymru yn y gorffennol ei fod wedi gwario tua £20,000 yn brwydro yn erbyn gorchymyn yr awdurdod i gadw draw o'r tŷ.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Jones: "Mae hyn yn dangos bod sail i weithredoedd y cyngor i amddiffyn pobl ar Heol Cyfyng.

"Bydd y cyngor nawr yn ystyried wrth symud 'mlaen ynglŷn â sut i ddelio gyda'r adeiladau dan sylw."