Ymchwiliad annibynnol i gyn-heddwas wedi llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Nicholas Anthony Churton
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref ar 27 Mawrth 2017

Mae trydydd ymchwiliad annibynnol wedi dechrau i ymddygiad cyn-uwch swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn ymwneud â llofruddiaeth pensiynwr o Wrecsam.

Dywed Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu - yr IOPC - eu bod yn ymchwilio i honiad o gamarwain ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd cyn llofruddiaeth John Churton yn ei gartref yn Wrecsam ym Mawrth 2017.

Yn ddiweddar yn Nhŷ'r Cyffredin fe wnaeth AS Wrecsam, Ian Lucas, ddweud ei fod wedi cael ei "gamarwain yn fwriadol" gan yr heddlu ynglŷn ag achos llofruddiaeth.

Cafodd y mater ei gyfeirio at yr IOPC gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cafodd Jordan Davidson ei garcharu am o leiaf 30 mlynedd am lofruddiaeth Mr Churton.

Roedd Davidson wedi ei gael yn euog o sawl trosedd flaenorol, ac roedd allan o garchar ar drwydded pan laddodd y pensiynwr gyda chyllell a morthwyl.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Davidson ei ddedfrydu i garchar am oes

Wrth gyhoeddi ymchwiliad newydd dywedodd Miranda Biddle, Cyfarwyddwr Rhanbarthol yr IOPC: "Oherwydd difrifoldeb yr honiad a budd y cyhoedd yn yr achos penodol yma, rydym wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol.

"Er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl bydd yr ymchwiliad newydd yn cael ei gynnal o'n swyddfa ranbarthol yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

"Byddwn yn dilyn pob trywydd gan sicrhau bod pawb dan sylw yn hyderus bod yr honiad wedi cael ei harchwilio'n drylwyr."

Mae Mr Lucas wedi cadarnhau wrth BBC Cymru ei fod wedi gwneud cwyn swyddogol.

Dywedodd: "Mae'n bwysig fy mod yn cael atebion cywir gan bobl mewn swyddi cyhoeddus.

"Dydw i ddim yn meddwl bod hynny wedi digwydd yn yr achos hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru nad oedd y llu am wneud sylw wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae dau ymchwiliad arall gan yr IOPC yn ymwneud â llofruddiaeth Mr Churton.

Ym Medi 2018, daeth y cyntaf i'r casgliad fod angen i ddau swyddog ateb achos o gamymddwyn, a bod angen gwneud gwelliannau wrth i'r llu ymateb i sefyllfaoedd bregus.

"Mae ail ymchwiliad i reolaeth Jordan Davidson ar ôl ei ryddhau o'r carchar yn 2016 a chyn llofruddiaeth Mr Churton yn mynd rhagddo ac yn gweld cynnydd da," meddai Ms Biddle.