Dathlu hanner canrif ers rhoi statws dinas i Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Abertawe yn paratoi i ddathlu 50 mlynedd ers i'r dref dderbyn statws dinas.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi'n swyddogol gan y Tywysog Charles yn 1969, ac fe fydd yn ymweld â'r ddinas ddydd Mercher fel y gwnaeth union hanner canrif yn ôl.
Gwnaed y cyhoeddiad gwreiddiol ddeuddydd ar ôl y seremoni arwisgiad yng Nghastell Caernarfon.
Yn ôl yr Athro Peter Stead, oedd yn un o'r rhai yn y dorf yn Abertawe nol yn 1969, roedd y cyhoeddiad wedi ei gadw'n gyfrinach agos.
"Roedd Parc Singleton wedi ei agor er mwyn caniatáu i dorfeydd weld yr orymdaith i Guildhall, ond ar y pryd roedd pawb yn meddwl mai just ymweliad brenhinol oedd yn digwydd.
"Erbyn heddiw mae'n siŵr byddai sibrydion wedi bod ar y gwefannau cymdeithasol, ond bryd hynny doedd neb yn ei ddisgwyl ac roedd e'n sioc fawr."
Fe wnaeth Abertawe gais am statws dinas am y tro cyntaf yn 1911. Bu'n rhaid aros 58 mlynedd arall cyn llwyddo.
Fe dderbyniodd y statws fel cydnabyddiaeth am yr ymdrechion i adfywio'r ardal ar ôl y dinistr mawr ddioddefodd Abertawe gan fomiau'r Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd.
Y tymor nesaf fe fydd tîm pêl-droed Abertawe yn cynnwys logo 1969 ar eu crysau er mwyn nodi'r hanner canmlwyddiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2017