Cytundeb achos is-bostfeistri: 'Gollish i'r cwbwl'

Fe fydd Swyddfa'r Post yn talu bron i £58m i ddatrys anghydfod hirdymor rhyngddyn nhw a channoedd o is-bostfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll.

Fe aeth rhai is-bostfeistri, gan gynnwys rhai o Gymru, i garchar, ond flynyddoedd yn ddiweddarach daeth i'r amlwg mai nam ar feddalwedd y cwmni oedd ar fai.

Sion Tecwyn fu'n clywed ymateb Noel Thomas - un o'r rhai oedd yn rhan o'r achos yn erbyn Swyddfa'r Post a'u system Gwybodaeth Technoleg Horizon.