Galw am newid y drefn o herio hiliaeth o fewn pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd y mae'r awdurdodau'n ceisio herio hiliaeth o fewn pêl-droed yn ddiffygiol ac mae angen ailwampio'r drefn, yn ôl un hyfforddwr.
Yn ôl Delwyn Derrick, sydd wedi ei wobrwyo am ei waith fel hyfforddwr, mae cwynion am hiliaeth yn rhy aml yn fater o air un person yn erbyn person arall.
Dywedodd un tîm o Gaerdydd, sydd â nifer o chwaraewr o gefndiroedd ethnig amrywiol, eu bod yn aml yn cael sylwadau hiliol yn eu herbyn - ond bod dim yn cael ei wneud.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) mai eu bwriad yw creu amgylchedd sy'n un "cynhwysol, croesawgar a diogel" i'r holl chwaraewyr.
Maen nhw hefyd yn dweud fod hiliaeth yn broblem i gymdeithas gyfan, yn hytrach na phroblem pêl-droed yn unig.
Yng Nghymru a Lloegr yn ystod tymor 2018-19, bu cynnydd o 47% (o 131 o gemau i 193) o ran nifer yr achosion o droseddau hiliol oedd yn cael eu hadrodd, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.
Mr Derrick oedd ennillydd gwobr Arwr Tawel BBC Cymru eleni am ei waith fel rheolwr Bellevue FC o ardal Wrecsam.
"Mae'r drefn o adrodd achosion o'r fath wedi torri," meddai.
"Fel mae pethau'n sefyll, 'dach chi'n anfon cwyn drwy e-bost, yna mae'r gymdeithas bêl-droed rhanbarthol neu CBDC yn ymchwilio ac yn gofyn am sylwadau'r ochr arall.
"Yn syth bin mae hynny'n dod yn fater o air un yn erbyn gair rhywun arall - mae'n troi yn ffrae."
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n delio gyda chwynion ym mhedwar gris uchaf pêl-droed Cymru, gyda chymdeithasau pêl-droed rhanbarthol yn ymateb i'r gweddill.
O'r chwe chyhuddiad yn honni achosion o hiliaeth gafodd eu dwyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers Medi 2015, dim ond un gafodd ei dderbyn gan banel disgyblu'r gymdeithas.
Mae diffyg hyder yn y modd mae cymdeithasau rhanbarthol yn ymdrin â chwynion, yn ôl Jason Webber o fudiad Show Racism the Red Card.
Dywedodd Hermon Yohanes o dîm STM Sports yng Nghaerdydd, fod sylwadau hiliol wedi eu gwneud tuag ato yn ystod gêm yn erbyn Cefn Albion o ardal Wrecsam ym mis Mawrth.
"Roeddynt yn son am fy nheulu, yn defnyddio y gair-n. Hon oedd gêm waethaf fy mywyd," meddai'r chwaraewr 23 oed, sy'n enedigol o Eritrea.
Dywedodd ei fod wedi rhoi gwybod i'r dyfarnwr, a chwyno i'r heddlu a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl y gêm.
Ym mis Gorffennaf penderfynodd panel nad oedd modd profi'r cyhuddiad. Dywedodd Mr Yohanes fod hynny wedi ei siomi yn ddirfawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi ymchwilio ond nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos pwy oedd yn gyfrifol.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi ymchwilio yn drwyadl, ond fod yna ddiffyg tystiolaeth er mwyn gallu profi'r cyhuddiad.
Dywedodd llefarydd eu bod wedi annog STM Sports i roi tystiolaeth ond fod hyn wedyn "wedi ei wrthod gan unigolion".
Dywed Sean Wharton - cyn-chwaraewr proffesiynol o Gwmbrân sydd wedi chwarae i Gaerdydd a Sunderland - ei fod wedi profi casineb hiliol wrth chwarae.
Mae o nawr yn addysgu eraill gyda Show Racism the Red Card.
Dywedodd y gallai hiliaeth ar y cae pêl-droed gael "effaith ofnadwy" ar unigolyn.
"Er mwyn bod yn wrth-hiliaeth, yn hytrach na ddim yn hiliol, mae'n rhaid i benaethiaid pêl-droed ddechrau credu dioddefwyr," meddai.
Mae o'n dadlau fod yn rhaid i awdurdodau wrando mwy ar y dioddefwr - pobl sydd "wedi cael llond bol o ddim byd yn digwydd ar ôl iddynt gwyno".
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhoi grant o £19,000 i elusen Show Racism the Red Card.
Dywedodd llefarydd eu bod hefyd yn cydweithio gydag elusennau eraill sy'n brwydro yn erbyn rhagfarn gan gynnwys Stonewall, We Wear the Same Shirt ac UEFA Respect/Equal Game.
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref fe wnaeth achosion o droseddau casineb gafodd eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru gynyddu o 14% y llynedd.
Dywed Mr Derrick ei fod yn cytuno gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru fod problemau hiliaeth o fewn pêl-droed yn adlewyrchu problemau o fewn cymdeithas yn ehangach - ond galwodd am farnwyr annibynnol mewn gemau.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y dyfarnwr eisoes yn chwarae rôl barnwr annibynnol ym mhob gêm, gyda'r gymdeithas yn annog pob dioddefwr i adrodd eu cwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019