Dyfodol canolfannau anifeiliaid gwyllt mewn perygl

  • Cyhoeddwyd
Tracy a Dean Tweedy
Disgrifiad o’r llun,

Dywed perchnogion nad oes ganddyn nhw fwy na wythnos o arian ar ol yn y banc

Mae unig sŵ Canolbarth Cymru yn dweud ei fod yn wynebu'r posibilrwydd o orfod ailgartrefu eu hanifeiliaid, neu hyd yn oed orfod difa rhai fel y dewis olaf.

Mewn datganiad mae perchnogion Borth Wild Animal Kingdom yn dweud bod ganddyn nhw broblemau ariannol o ganlyniad i orfod aros ar gau oherwydd y pandemig coronafeirws.

Dywedodd Tracy a Dean Tweedy - perchnogion y sŵ ger Aberystwyth - fod "pethau ariannol yn edrych yn llwm" a bod ganddyn nhw werth oddeutu wythnos o arian ar ôl.

Ar ôl hynny "bydd yn rhaid i ni ddechrau edrych ar ailgartrefu neu, fel y dewis olaf, ewthaneiddio'r anifeiliaid rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cysylltu â sŵau "o'r cychwyn cyntaf" yn manylu ar y cynlluniau nawdd y gallan nhw fod yn gymwys amdanynt.

Pili Palas mewn trafferth

Yn y cyfamser mae atyniad poblogaidd ar Ynys Môn - Pili Palas - hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cael "cic" gan Lywodraeth Cymru ar ôl iddyn nhw wrthod rhoi cymorth ariannol i barhau â'r gwaith o ofalu am yr anifeiliaid.

Yn wahanol i Lywodraeth San Steffan, sy'n rhoi cymorth ariannol i atyniadau sy'n gofalu am anifeiliaid, nid yw Llywodraeth Cymru'n cynnig yr un peth.

Ym mis Ionawr dywedodd Cyngor Ceredigion wrth Sŵ Borth am gau yr ardaloedd lle maen nhw'n cadw anifeiliaid peryglus oherwydd prinder staff oedd â thrwydded i ddefnyddio drylliau.

Cafodd holl ardaloedd arall y sŵ eu hailagor ym mis Chwefror, ar wahân i ardal y llewod, ond bu'n rhaid i'r atyniad cyfan aros ar gau yn dilyn cyflwyno'r cyfyngiadau ar ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd Tracy Tweedy fod llawer o staff wedi cael eu rhyddhau a bod y sŵ wedi derbyn grant busnes o £25,000 ond mae hynny bron â dod i ben.

Ffynhonnell y llun, Borth Wild Animal Kingdom
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddihangodd Lilieth, cath Lynx, o Sŵ Borth yn 2018

Ar Ynys Môn, mae perchnogion Byd Natur Pili Palas yn dweud bod sefyllfa'r cyfyngiadau, yr amseru a'r diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru yn gaseg eira ariannol iddyn nhw.

Mae'n costio £10,000 y mis iddyn nhw gadw'r anifeilaidd sydd ganddyn nhw yn fyw, ac er eu bod wedi rhoi rhai aelodau staff ar gynllun saib o'r gwaith Llywodraeth y DU nid oes modd rhoi'r holl staff ar y cynllun am fod angen gofalu am yr anifeiliaid.

Mae Gwawr Bell yn dweud bod llythyr wnaethon nhw ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn dilyn eu cais am arian yn "ddilornus".

Ffynhonnell y llun, Byd Natur Pili Palas
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o lythyr y derbyniodd perchnogion Pili Palas gan Lywodraeth Cymru a oedd yn eu hannog i edrych ar eu hyswiriant ac i roi eu staff ar gynllun Llywodraeth y DU

"Mae Llywodraeth Prydain yn rhoi grantiau anferth i ganolfannau yn Lloegr, ac er ei bod ni wedi cael grant gan y cyngor yn erbyn y dreth, y cyfan mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ydy gofyn i ni lenwi holiadur am yr anifeiliaid a dweud wrthon ni edrych ar ein polisi yswiriant!" meddai Ms Bell.

"'Dan ni'n dal i aros i weld a gawn ni Grant Cadernid Economaidd drwy'r llywodraeth, ond da ni heb glywed dim byd eto, ac mae ein costau ni ar hyn o bryd yn £10,000 y mis.

"Mae'n gaseg eira anferth i gwmnïau fel ni."

Ffynhonnell y llun, Pili Palas
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Pili Palas ar Ynys Môn yn gartref i bob math o anifeiliaid egsotig

Ychwanegodd: "'Dan ni wedi gorfod cymryd benthyciadau anferth, a fy mhryder i ydy - ar ôl y gaeaf llwm, a nawr y cyfnod yma o dan glo - y byddwn ni'n wynebu gaeaf eto a'r cwmnïau sydd wedi benthyg y pres yn dechrau gofyn amdano'n ôl bryd hynny.

"Mae gynnon ni gostau gwresogi'r anifeiliaid, y gloÿnnod byw, yr anifeiliaid trofannol. 'Dan ni ddim yn gwybod sut ydyn ni'n mynd i ddod allan ohoni.

"Y peth ola' ydyn ni eisiau ei wneud ydy mynd yna efo'n dwylo'n agored achos mae 'na bobl wirioneddol angen arian allan yna, ond mae hi'n ymddangos i ni fod sectorau eraill yn cael help, lle 'dan ni ddim."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O'r cychwyn cyntaf, mae'r holl sŵau trwyddedig yng Nghymru wedi cael manylion y cynlluniau y bydden nhw'n gymwys i gael cyllid oddi wrthyn nhw, gan gynnwys ein Cronfa Cadernid Economaidd, sy'n werth £500m, ac yn unigryw i Gymru.

"Rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â sŵau Cymru ac mae'r rhan fwyaf o'r rheini sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni wedi dweud eu bod wedi gallu manteisio ar y cronfeydd cyllid sydd ar gael iddyn nhw, a'u bod naill ai wedi cael, neu wedi gwneud cais am gyllid dan ein cynlluniau ni a chynlluniau amrywiol eraill.

"Drwy'n Cronfa Cadernid Economaidd, mae sŵau wedi gallu manteisio ar becyn mwy hael i'w helpu gyda materion sy'n gysylltiedig â lles anifeiliaid a chyda'u hyfywedd economaidd nag y bydden nhw wedi'i gael drwy gynllun penodol ar gyfer y sector.

"Mae gan y rheini sy'n rhedeg sŵau ddyletswydd gofal at eu hanifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981. Nid yw hynny wedi newid yn ystod y pandemig."