Amazon yn dangos y dyfodol i S4C
- Cyhoeddwyd
Bedwar deg mlynedd yn ôl fe wnaeth llywodraeth Margaret Thatcher dro pedol annisgwyl a chyhoeddi y byddai Cymru yn cael sianel deledu Cymraeg wedi'r cyfan.
Dim ond tair sianel oedd yn bodoli ar y pryd a dim sôn am deledu lloeren na'r we.
Dair blynedd ers iddo sgwennu adroddiad i Lywodraeth y DU am ddyfodol y sianel, Euryn Ogwen Williams sy'n cloriannu'r camau sydd wedi eu cymryd hyd yma - a'r sialens i'r dyfodol mewn byd digidol.
Mae tair blynedd yn amser hir iawn ym myd y cyfryngau'r dyddiau hyn.
Pan gytunodd Euryn Ogwen Williams yn 2017 i ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth y DU ar ddyfodol S4C roedd y byd digidol yn her fawr, ond yn y cyfnod byr ers hynny mae'r nifer sy'n gwylio Netflix ac Amazon bron wedi dyblu.
Darogan gwae i'r sianeli traddodiadol mae rhai, ond nid felly cyn-ddirprwy brif weithredwr S4C - yn rhannol oherwydd amseru ffodus ei adroddiad.
Pan ofynnodd y llywodraeth os fyddai o'n derbyn y gwaith, mae'n dweud ei fod yn gwybod yn iawn nad fo oedd y cyntaf i gael y cynnig a bod sawl person wedi gwrthod. Yn hytrach na rhoi ei ben yn ei blu, sylweddolodd bod hynny'n ei gwneud hi'n haws iddo daro bargen.
Roedd ganddo ddau amod: byddai'n gwneud y gwaith yn ddi-dâl - er mwyn sicrhau annibyniaeth - a byddai'n gwneud y gwaith heb bwyllgor - er mwyn cyflymu'r holl broses. O fewn ychydig fisoedd roedd yr adroddiad wedi ei gwblhau a'i dderbyn, wrth i'r byd digidol garlamu ymlaen.
Byd digidol allan o reolaeth
"Ro'n i'n gwybod bod pethau'n cyflymu pan oeddwn i'n gwneud yr adroddiad," meddai Euryn Ogwen Williams. "Ro'n i'n darllen pethau gwahanol i be' faswn i'n darllen fel arfer yn ei wneud oherwydd y gwaith, ac roedd rhywun yn sylwi bod Netflix yn symud i gyfeiriad gwahanol, roedd rhywun yn gweld y buddsoddiadau mawr a bod y byd digidol ychydig bach allan o reolaeth.
"Dyna oedd yn fy nychryn i, os nad oedden ni'n symud yn gyflym fyddai'r sianel mor araf deg yn ymateb. A'r fantais sydd gan S4C - a'r iaith Gymraeg - ydi ei bod hi'n gallu symud yn gyflym. Does yna ddim lot ohonom ni. Mae'n lot haws i S4C symud nag ydi i'r BBC symud er enghraifft."
Un o brif argymhellion Creu S4C ar Gyfer y Dyfodol oedd newid dyletswydd gwasanaeth cyhoeddus S4C i adlewyrchu'r byd modern. Felly yn hytrach na chael eu cyfyngu i 'raglenni teledu', roedd angen ehangu'r briff i 'greu gwasanaethau digidol ac ar-lein.'
Roedd yr adroddiad, gafodd ei gyflwyno i Senedd y DU gan Ysgrifennydd Gwladol Materion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar ddechrau 2018, hefyd yn galw ar S4C i fuddsoddi mwy mewn cynnyrch digidol.
Oni bai bod hynny wedi digwydd ac S4C wedi ymateb i'r her, byddai'r sianel mewn sefyllfa fwy bregus heddiw meddai awdur yr adroddiad.
Ffigyrau gwylio
Mae'n dweud ei fod wedi ei galonogi gan y ffigyrau gwylio - dros filiwn mewn un mis wedi gwylio cynnyrch ar blatfform ieuenctid Hansh - ac ymateb chwim y sianel yn ystod y cyfnod clo.
"Digidol ydi achubiaeth S4C," meddai Euryn Ogwen, oedd hefyd yn ymgynghorydd i S4C ar ddechrau oes teledu ddigidol yn yr 1990au. "Maen nhw wedi shifftio'r cyfartaledd oedran gwylio o 65+ i 35-60 ac maen nhw wedi gwneud hynny mewn tair blynedd, sy'n ffantastig.
"Y broblem ydi tasa rhywun yn edrych ar deledu linear mae o dal yn 65+. Ond tydi'r 65+ ddim wedi gadael S4C - hwnnw ydi'r allwedd - y gwahaniaeth ydi be' sy'n cael ei wneud yn ddigidol. Mae Hansh yn boblogaidd ac mae S4C wedi dechrau creu'r bocs set ac ati, sy'n hynod o boblogaidd a phobl dan 60 oed sydd yn gwylio'r rheiny."
Mae o hefyd yn canmol ymateb y sianel yn ystod y cyfnod clo, yn cynnwys creu rhaglen Oedfa Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar foreau Sul yn sgil cau addoldai oherwydd Covid-19:
"Roedd yn anhygoel o boblogaidd a phobl yn ymateb iddo achos roedd o'n union be' oedden nhw eisiau. Dw i ddim yn meddwl fasa hwnnw wedi digwydd 10 mlynedd yn ôl. S4C oedd y cynta' i ddangos drama wedi ei wneud yn y cyfnod clo hefyd - mae'r ffaith bod o wedi digwydd yn bwysicach na'r hyn oedd o bron iawn."
Efelychu cwmnïau rhyngwladol
Ond mae ganddo air o rybudd.
Mae'n feirniadol o agwedd S4C rai blynyddoedd yn ôl - o fod yn rhy gyfforddus ac yn ceisio gwarchod y sefydliad yn hytrach na bod yn barod i newid. Mae'r cyfnod cythryblus ddaeth yn sgil yr argyfwng ariannol yn 2010 wedi arwain at newid agwedd, meddai.
Mae'n pwysleisio fod rhaid i S4C barhau i addasu yn gyson, a dros y tair blynedd nesaf mae'n gobeithio gweld mwy o gynnwys sy'n cael ei greu gan y cyhoedd a'r sianel yn efelychu'r cwmnïau mawr rhyngwladol drwy dargedu eu cynulleidfa yn fwy effeithiol:
"Be' fydda'n neis ydi bod mwy o gyfle i wneud user generated content, fel straeon lleol hyd yn oed, neu Hel Straeon user generated - a bod rhywun yn mynd i Clic i weld stwff.
"Wedyn dw i'n eistedd yma ac wedi dweud wrth gofrestru efo Clic mod i wedi fy magu yn Sir Fflint, geni yng Ngwynedd, a bod hwnnw'n mynd mewn i'r data. Os mae rhywun yn gwneud eitem fach ddifyr yn y Wyddgrug am rywbeth sy'n digwydd dwi'n cael e-bost yn syth efo linc yn dweud 'pam ma wyliwch chi hwn?' - y math o beth mae Amazon yn ei wneud.
"Y peth pwysig ydi nad ydi S4C yn meddwl allan nhw gystadlu efo Amazon - eu bod nhw'n byw yn y byd yna ond yn gwneud rhywbeth sydd mor unigryw ac arbennig.
"Dyna lle maen nhw eisiau cyrraedd yn y tair blynedd nesaf, y cysylltiad personol - ac wedyn all Netflix ddim eu twtsiad nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod wedi dechrau gwneud hyn i raddau yn barod - gan ddefnyddio eu gwybodaeth am wylwyr unigol i adael iddyn nhw wybod am raglenni yn eu hamserlen sy'n debygol o fod o ddiddordeb, er enghraifft dramâu a gemau rygbi. Cam bach yw hyn, ychwanegodd, ond mae bwriad i ddatblygu yn y dyfodol wrth i fwy o bobl gofrestru gyda S4C Clic a'i gwneud yn haws i ddadansoddi patrymau gwylio.
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddara'r sianel, fe wnaeth 100,000 gofrestru'r llynedd.
Pwysigrwydd tro pedol Thatcher
Er bod patrymau gwylio yn wahanol iawn i'r sefyllfa 40 mlynedd yn ôl, mae angen edrych nôl i ddeall beth sy'n digwydd heddiw.
Ar ôl cael eu hethol yn 1979, daeth i'r amlwg nad oedd y llywodraeth Geidwadol ar y pryd am wireddu eu haddewid i sefydlu sianel benodedig Gymraeg. Arweiniodd hynny at fygythiad cyn-lywydd Plaid Cymru Gwynfor Evans i ymprydio hyd at farwolaeth, ac ar 17 Medi 1980 cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref William Whitelaw y byddai'r llywodraeth nid yn unig yn rhoi'r sêl bendith i'r sianel - ond yn creu awdurdod annibynnol hefyd.
Fel pennaeth rhaglenni cyntaf S4C yn 1982, roedd Euryn Ogwen yno ar y cychwyn cyntaf ac mae'n dweud bod penderfyniad wnaed bedwar degawd yn ôl yn ei gwneud hi'n haws i'r sianel ymateb i'r her ddigidol heddiw:
"Pan oedd Gwynfor yn bygwth ymprydio y slogan oedd 'Sianel Gymraeg' a dw i'n cofio siarad efo fo dwy neu dair blynedd wedyn a ro'n i'n dweud mai nid sianel i Gymru oedd y peth pwysicaf o gwbl ddigwyddodd ond awdurdod annibynnol i Gymru.
"Un o'r pethau anhygoel oedd bod llywodraeth Margaret Thatcher, allan o unlle, wedi creu'r awdurdod annibynnol yma.
"Heb hynny be' fasa ti wedi gallu cael oedd sianel i Gymru yn cael ei rhedeg ar y cyd gan HTV a BBC, a fasa ni yn union yr un lle rŵan ac oedda ni'r adeg hynny.
"Y sialens efo'r adroddiad oedd sicrhau bod yr awdurdod sy'n bodoli, ac wedi ei greu i redeg un sianel, yn cael yr hawl bellach i wneud beth bynnag oedd ei angen er mwyn creu gwasanaethau iaith Gymraeg."
Hefyd o ddiddordeb: