Felix Aubel yn ymddiswyddo fel gweinidog pum capel

  • Cyhoeddwyd
Felix Aubel
Disgrifiad o’r llun,

Safodd Felix Aubel ar ran plaid UKIP yn etholiadau Senedd Cymru yn gynharach eleni

Mae pregethwr a gwleidydd dadleuol wedi ymddiswyddo o'i waith fel gweinidog ar bump o gapeli yn Sir Gâr.

Mewn llythyr sydd wedi dod i law rhaglen Newyddion S4C, mae ysgrifenyddion Capel y Graig, Trelech, Sir Gaerfyrddin, yn cadarnhau bod y Parchedig Ddoctor Felix Aubel wedi ymddiswyddo, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y 15 mlynedd diwethaf.

Roedd hefyd yn weinidog ar gapeli Annibynnol Penybont, Fynnonbedr, Bwlchnewydd a Chapel Cendy. 

Dywedodd Felix Aubel fod "dim sylw o gwbl" ganddo fe i'w wneud o ran amgylchiadau ei ymddiswyddiad.

Cymeriad lliwgar

Mae Dr Aubel yn gymeriad lliwgar, yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu S4C ac wedi sefyll mewn sawl etholiad a thros sawl plaid wleidyddol.

Dechreuodd ei yrfa mewn gwleidyddiaeth drwy sefyll dros blaid yr SDP yng Nghwm Cynon yn ystod etholiad cyffredinol 1983.

Ymunodd wedyn â'r Blaid Geidwadol. Daeth o fewn 750 o bleidleisiau i gipio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed ar eu rhan yn etholiad cyffredinol 2001.

Yn fwy diweddar, fe oedd trefnydd gorllewin Cymru ar gyfer ymgyrch Vote Leave i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe safodd wedyn dros blaid UKIP yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai eleni, gan fethu ennill sedd yn etholaeth Delyn a rhanbarth gogledd Cymru. 

Ffynhonnell y llun, Twitter/Dr Felix Aubel
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd neges wreiddiol Dr Aubel ei ddileu o'i gyfrif Twitter yn ddiweddarach

Mae hefyd yn ffigwr dadleuol. Yn 2017, cafodd Dr Aubel, sydd hefyd yn hanesydd, ei feirniadu gan Undeb yr Annibynwyr am ddefnyddio iaith "hollol annerbyniol" a "gwrthun" wrth ymateb i flogiwr asgell-dde eithafol ar Twitter gan ofyn "Pryd fydd Ewrop Gristnogaidd heddiw yn dweud 'digon yw digon' fel ag y gwnaeth Cristnogion Sbaenaidd diwedd y Canol Oesoedd?"

Yn ystod cyfnod Chwil-lys Sbaen (y Spanish Inquisition) yn y Canol Oesoedd, roedd Mwslemiaid ac Iddewon ymysg y rhai a gafodd eu herlid gan Gatholigion Sbaen. Cafodd aelodau'r cymunedau crefyddol rheiny eu gwahardd o Sbaen mewn cyfnod ddaeth yn ddrwgenwog oherwydd y trais a welwyd.

Ymddiheurodd Felix Aubel yn ddiweddarach am y sylwadau yna, gan ddweud wrth BBC Cymru ei fod e'n "gofyn cwestiwn pen-agored...a ddim yn gwneud datganiad" ac nad oedd e'n "cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol na hiliol fel rhywun o dras cymysg fy hun".

Disgrifiad o’r llun,

Sianel Voice of Wales ar YouTube

Yn gynharach eleni, ymddangosodd ar sianel YouTube Voice of Wales a gafodd ei labelu yn hiliol gan wleidyddion amlwg. Roedd hefyd wedi cefnogi a chlodfori'r sianel honno ar wefannau cymdeithasol. Wedi ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, dileuwyd y sianel gan YouTube.

Mae'r BBC yn deall i'r digwyddiadau yma greu tensiynau a rhwygiadau o fewn i'w ofalaeth, gyda rhai yn teimlo bod ei ddaliadau yn "anghristnogol". 

Fe ymddiswyddodd Dr Aubel o'i swydd fel gweinidog ar 31 Awst. Mewn llythyr at aelodau, mae tri o ysgrifenyddion Capel y Graig yn diolch iddo am ei waith fel gweinidog ers 2006 ac yn dymuno'r gorau iddo at y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig