Drakeford: Gormod o ail gartrefi mewn rhannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pistyll
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl wedi ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn ym mis Mai er mwyn tynnu sylw at y broblem

Mae gormod o ail gartrefi mewn rhannau o Gymru, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

"Mae gennym bentrefi cyfan lle mae dros hanner y cartrefi yn cael eu meddiannu dim ond rhan o'r flwyddyn," meddai wrth y BBC.

"Rwy'n credu bod hynny'n newid cymeriad y lleoedd hynny. Felly, mewn rhai rhannau o Gymru, mae gormod o ail gartrefi, ond mae hynny mewn ardaloedd penodol lle mae angen mathau penodol o atebion."

Fel rhan o'r cytundeb cydweithio newydd gyda Phlaid Cymru sy'n cychwyn heddiw, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnig codiadau treth a rheolaethau cynllunio fel rhan o ystod o fesurau yn wyneb y cynnydd mewn ail gartrefi a gosodiadau gwyliau.

Dywed rhai perchnogion ail gartrefi eu bod yn cael eu trin yn annheg, gan dadlau mai'r gwir broblem yw'r prinder tai fforddiadwy.

"Rydyn ni'n cael ein defnyddio fel bwch dihangol oherwydd eu polisïau cenedlaethol sydd wedi methu," meddai Jon Morrison, o Grŵp Perchnogion Cartrefi Cymru.

"Pe bawn i'n wleidydd, a ydw i eisiau sefyll i fyny a chyfaddef fy mod i wedi methu yn fy nyletswydd i bennu nifer y cartrefi yr oeddwn eu hangen ddeng mlynedd yn ôl? Na, byddaf yn beio rhywun arall, byddaf yn beio perchnogion yr ail gartrefi."

Gwadodd Mr Drakeford fod perchnogion ail gartrefi yn cael eu beio am y sefyllfa ond pwysleisiodd fod yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl talu'r cyfraddau y mae awdurdodau lleol yn gofyn amdanyn nhw.

"Rydyn ni'n disgwyl i bobl sydd mewn sefyllfa ffodus iawn o allu fforddio dau gartref yn hytrach nag un wneud eu cyfraniad."

"Yr hyn yr ydym yn y busnes o'i wneud yw ceisio sicrhau bod pobl leol, pobl ifanc yn arbennig yn cael cyfle teg i barhau i fyw a chyfrannu yn y cymunedau y cawsant eu geni ynddynt. Helpu i greu cymeriad y cymunedau hynny sy'n ei gwneud yn ddeniadol i bobl eraill."

Ail gartrefi'n 'anfoesol'

Yn y cyfamser, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Dafydd Meurig, ei fod yn "anfoesol bod 'na bobl sy'n berchen ar fwy nag un tŷ pan mae 'na bobl sydd heb yr un tŷ".

Wrth ymddangos gerbron pwyllgor llywodraeth leol a thai Senedd Cymru fore Mercher, dywedodd bod ail gartrefi a thwristiaeth "yn ddau fater ar wahân sydd weithiau yn cael eu drysu".

"Dwi'n wrthwynebus iawn i ail gartrefi, yn wleidyddol ac yn bersonol," eglurodd.

"Wrth gwrs, 'dan ni'n croesawu y diwydiant twristiaeth ar lefel gynaliadwy," ychwanegodd.

Pan ofynnodd Sam Rowlands AS a oedd yn "anfoesol" iddo yntau aros mewn "ail gartref yng Nghaerdydd" yn ystod ei wythnos waith, atebodd y Cynghorydd Meurig bod "hynny'n rhan o'ch gwaith, mae hynny'n fater gwahanol iawn ac mae Caerdydd yn wahanol iawn i Nefyn".

Pynciau cysylltiedig