Covid: Pobl yn hunan ynysu dros y Dolig heb eu teuluoedd
- Cyhoeddwyd
Fel sawl person arall, bydd un mam-gu oedd wedi bwriadu coginio'r cinio Dolig i'w phlant a'i hwyrion yn gorfod treulio'r diwrnod ar ei phen ei hun.
Fe gafodd Mandy Connors o Aberystwyth brawf positif Covid-19 ddydd Mawrth.
Mae 'na alw wedi bod ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a chwtogi'r cyfnod hunan ynysu ar ôl cael prawf Covid-19 - lawr o 10 diwrnod i saith.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, na fyddai Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor hynny "am y tro" ac y bydd cyfle i ail-ystyried y drefn ar 5 Ionawr.
Gyda'r nifer uchaf o achosion positif yn cael eu cofnodi yng Nghymru noswyl Nadolig, mae'n bosib y bydd degau ar filoedd sydd wedi profi'n bositif ers 16 Rhagfyr yn treulio diwrnod Nadolig heb eu teuluoedd.
Dywedodd Mandy ei bod yn "hynod siomedig" am ei sefyllfa.
"Roedd fy nheulu i fod i ddod am ginio Nadolig am y tro cyntaf ers amser hir oherwydd Covid," meddai.
"Fe wnes i brynu twrci ac mae e yn y rhewgell - fydden i wedi mynd i siopa ddydd Iau felly, yn lwcus, fydd na ddim bwyd yn mynd i wastraff."
Dywedodd Mandy bod canlyniad positif y prawf PCR wedi dod fel syndod ar ôl dau brawf llif unffordd negyddol.
"Ry'n ni wedi bod drwy hyn i gyd a heb [ddal] unrhyw beth, wedyn y tro cyntaf i fi fod allan ers misoedd... dwi'n hynod siomedig," ychwanegodd.
Ond dywedodd Mandy ei bod yn ceisio cadw'i hwyliau'n bositif, ac mae wedi bod yn meddwl am ffyrdd o gadw mewn cysylltiad gyda'r teulu ddydd Nadolig.
"Dwi wedi bod yn trafod gyda fy merched. Pan mae'r plant yn agor eu hanrhegion yn y bore, bydda i'n cysylltu dros FaceTime," meddai.
"Mae fy chwaer yn dod â chinio Nadolig i fi, wedyn na' i ffonio nhw ar FaceTime a gobeithio ymuno yn y sgwrs pan fyddwn ni'n bwyta."
Bydd Richard Hawkins, 37, yn ei fflat ym Manceinion ar ei ben ei hun yn lle bod gyda'i deulu yn Aberystwyth.
Cafodd brawf positif ddydd Mawrth a phrofodd symptomau fel gwres uchel difrifol.
"Mae'n rhaid i fi hunan ynysu ar ben fy hun, ond dwi'n ffodus bod rhai cymdogion wedi gwneud peth o'r siopa i fi," meddai.
"Mae ffrindiau wedi cynnig coginio'r cinio Nadolig i fi, felly mae'n bosib y ga'i bump ohonyn nhw!
"Dwi'n gorfod cymryd mantais o'r sefyllfa, ond wrth 'nabod fy lwc, na'i golli fy synnwyr i flasu."
Ond mae pryderon am y byd gwaith hefyd, gyda CBI Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddai cwtogi'r dyddiau hunan ynysu yn rhoi cyfle i fusnesau a'r gwasanaeth iechyd ymdopi gyda phrinder staff.
Mae gan Dion Hughes, rheolwr ar dair tafarn yng Ngwynedd, 55 aelod o staff.
Mae'n dweud iddo brofi anawsterau enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf ar ran recriwtio staff, a nifer yn gorfod hunan ynysu.
"Ar hyn o bryd mae gena' i chwech off yn hunan ynysu," meddai.
"Newydd testio maen nhw jest cyn Dolig, roedd tri o'r rheiny fod i weithio diwrnod Dolig.
"Gan bod nhw newydd destio'n bositif mae'n golygu y byddan nhw off diwrnod Dolig ac off dros y flwyddyn newydd hefyd.
"'Sa'n gwneud gwahaniaeth mawr i ni os 'sa nhw mond yn gorfod isolatio am y saith diwrnod."
Yn sgil pryderon am amrywiolyn Omicron, mae Dion yn dweud fod rhwng 5,000 a 10,000 o bobl wedi canslo trefniadau ar draws ei dri safle, gan arwain at oblygiadau ariannol anodd.
"Mae 'di bod lot distawach, dyma fydd y 12fed Nadolig i mi weithio a dyma'r distawa'."
'Busnesau Cymru'n teimlo pwysau'
Yn ôl CBI Cymru fe fyddai gostwng nifer y dyddiau hunan ynysu yn "gam synhwyrol".
"Mi fyddai'n lleddfu'r rhywfaint ar y pwysau y mae busnesau Cymru wedi bod yn ei deimlo," meddai llefarydd.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud bob dim posib i gefnogi'n busnesau ni."
Mae'r neges honno hefyd wedi ei chefnogi gan y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dweud y byddai cwtogi nifer y dyddiau hunan ynysu yn sicrhau staff i weithio mewn ysbytai a'r gwasanaeth iechyd.
Ddydd Iau, fe rybuddiodd prif weithredwr newydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru y gallai hyd at un ym mhob pum aelod o staff fod yn absennol o'u gwaith yn ystod brig ton Omicron.
Yn ôl Judith Paget mae modelau yn awgrymu y gallai tua 17% o'r gweithlu fod yn sâl neu'n hunan ynysu yn ystod mis Ionawr - lefel fyddai gyda'r uchaf ers dechrau'r pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi cymryd camau pendant yn erbyn yr amrywiolyn newydd Omicron, gan gyflwyno cyfres o fesurau i gadw Cymru a'i phobl yn ddiogel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021