Hawl i fyw adre yn golygu sir nid pentref genedigol?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bod angen ystyried "hawl i fyw adre" i olygu ardal eang fel sir, nid pentref genedigol, meddai academydd wrth bwyllgor Senedd Cymru.
Fe wnaeth yr Athro Rhys Jones, Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydnabod y gallai hynny fod yn "bryfoclyd".
Rhybuddiodd bod "rhaid inni fod yn ofalus nad y' ni'n dychmygu y fath o fywyd oedd yn bodoli 'nôl yn y 50au".
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru eisoes wedi clywed bod "angen mwy o frys" ar Lywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael ag ail gartrefi, ond hefyd bod angen cyfnod "hir iawn" i weld a yw polisïau i fynd i'r afael ag ail gartrefi yn cael unrhyw effaith.
Daeth ymgynghoriad, dolen allanol Llywodraeth Cymru ar newid deddfau cynllunio - yn dilyn pryder ynghylch perchnogaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr - i ben ar 23 Chwefror.
Fore Iau, dywedodd yr Athro Rhys Jones wrth y pwyllgor bod angen ystyried y syniad o'r hawl i fyw adre.
"Beth yw'r adre yn y cyd-destun yna? Ydy e'n golygu y lle maen nhw wedi cael eu geni a'u magu, neu a oes angen inni feddwl am ardal ehangach pan y' ni'n meddwl am dai fforddiadwy, pan y' ni'n meddwl am yr hawl i brynu tai, cael mynediad i dai.
"Mae'n bwydo mewn i'r ystyriaethau ynglŷn â thai lleol ar gyfer pobl leol. Beth yw'r syniad o iaith gymunedol?
"Mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad y' ni'n dychmygu y fath o fywyd oedd yn bodoli nôl yn y 50au, efalle, a bod angen inni feddwl am ddarpariaeth dai ar gyfer y ffordd mae pobl yn byw heddiw, efalle sy'n golygu bod nhw ddim yn gallu cael tŷ - efalle bod hyn yn rhywbeth pryfoclyd - yn eu pentref genedigol, ond efalle yn eu hardal leol yn fwy cyffredinol, sir o bosib."
Ymatebodd cyn-weinidog y Gymraeg, Alun Davies: "Pwynt diddorol Rhys. Chi'n dweud bod ni ddim eisiau tai yn y ffordd roedd pobl yn byw yn y 50au ond ar gyfer sut mae pobl yn byw heddiw.
"Faswn i'n meddwl bod y ffordd roedd mam a dad fi, mam-gu a thad-cu fi yn y 50au yn union yr un anghenion ag sy' gen i heddiw a fy mhlant heddiw.
"Dwi eisiau tŷ dwi'n gallu fforddio, dwi eisiau byw ynddo fe, yn y pentref neu gymuned o le dwi'n dod. Dyw hynny ddim yn rhywbeth amserol, yn y gorffennol."
Cyfeiriodd Rhys Jones at bentref Tal-y-bont, rhwng Aberystwyth a Machynlleth, fel enghraifft.
"Un ffordd o feddwl am yr angen i gael yr hawl i fyw adre yw bod angen i bobl sy' wedi cael eu magu yn Nhal-y-bont allu byw yn Nhal-y-bont, eu bod nhw'n gallu byw eu bywydau bron yn gyfan gwbl yn Nhal-y-bont o ran addysg a chymdeithasu.
"Y syniad, os nad y' ni'n ofalus, am yr iaith gymunedol, mae'n gallu rhoi'r syniad o gymuned gaeedig, fel y bydde pobl wedi byw yn y gorffennol o bosib.
"Ond mae pobl sy'n byw yn Nhal-y-bont, ac sydd wedi cael eu magu yn Nhal-y-bont, wedi symud i fyw i Aberystwyth neu bentrefi cyfagos, mae lot yn mynd a phlant i'r ysgol yn Aberystwyth."
Ymhelaethodd: "Os y' ni'n gorfod ail-ystyried beth yw ein dealltwriaeth ni o iaith gymunedol - ac mae'r llywodraeth yn dechrau gwneud hynny yng nghyd-destun polisi iaith - yna mae goblygiadau o'n dealltwriaeth ni o ble mae'r tai 'na yn gorfod bod er mwyn galluogi'r iaith gymunedol hynny i gael ei pharhau."
'Iaith Cymru gyfan'
Ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywedodd y cadeirydd Mabli Siriol Jones: "Dyw'n diffiniad ni o iaith gymunedol ddim yn golygu ei chyfyngu i unrhyw gymuned neu unrhyw ardal benodol. Iaith Cymru gyfan yw'r Gymraeg."
Mae'r gymdeithas yn pryderu am rai sylwadau yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Dr Simon Brooks - Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, dolen allanol - yn enwedig "rydym am sicrhau y gall pob perchennog ail gartrefi wneud cyfraniad teg i'r cymunedau y maent yn prynu eiddo ynddynt".
Dywed y gymdeithas bod y "gosodiad yn awgrymu fod derbyn y bydd nifer uchel o ail dai yn anochel ac mai dim ond lliniaru effaith ail dai ar gymunedau fydd".
Dywedodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Ruth Richards, wrth y pwyllgor ei bod yn "argymell holl ganfyddiadau ac argymhellion" adroddiad Simon Brooks.
Pwysleisiodd bod "angen brys" i sefydlu Comisiwn i wneud argymhellion am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol oherwydd "byddai hyn yn fodd i sefydlu'r cyswllt hollbwysig rhwng polisi tai a strategaeth y llywodraeth mewn perthynas â'r iaith Gymraeg".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021