Delio â thrawma Rhyfel y Falklands gyda chreadigrwydd

  • Cyhoeddwyd
Cartŵn o filwyr y Gwarchodlu CymreigFfynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn gan Will Kevans o filwyr y Gwarchodlu Cymreig

"Os dwi'n gallu ei brosesu ac ysgrifennu amdano, efallai mai dyna'r ffordd i symud ymlaen."

Fel artist ifanc yn yr ysgol yn Aberystwyth, doedd gan Will Kevans ddim syniad y byddai ei ddawn greadigol yn helpu delio â thrawma rhyfel flynyddoedd yn ddiweddarach.

Fel aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, bu'n rhan o'r ymladd ar Ynysoedd y Falklands yn 1982.

40 mlynedd wedi'r rhyfel, mae'n ddiolchgar o allu creu cartwnau a cherddoriaeth sy'n helpu gwneud synnwyr o erchyllterau'r brwydro.

'Sefyllfa frawychus'

Fe weithiodd Will mewn archfarchnad ar ôl cael ei wahardd o'r ysgol, ond am fod y cyflog mor isel fe ymunodd â'r fyddin.

Mae'n cofio'i hun yn lanc "naïf" a gafodd ei fagu mewn bwthyn hen fferm ac oedd yn hoff o gerddoriaeth pync a ska, cyn y daith ar long y QE2 i hemisffer y de gyda dynion ifanc eraill oedd â "dim syniad lle roedd y Falklands".

Roedd sylweddoli bod yr ynysoedd oddi ar arfordir De America, pan "roedden ni'n meddwl bod nhw yn yr Outer Hebrides" yn "dipyn o syndod".

Ffynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

Will gyda chyd-filwyr yn ardal Sapper Hill ar Ynysoedd y Falklands

Ar ôl cyrraedd yr ynysoedd, un o'i atgofion pennaf o'r rhyfel oedd bod yn sownd yng nghanol maes ffrwydron wrth i filwyr symud tua'r brifddinas, Stanley.

"Roedd yna Marine tu ôl i ni oedd yn sgrechian ar ôl colli ei droed, ac roedd rhaid ei gludo allan o 'na," meddai.

"Roedd yn sefyllfa frawychus iawn i fod ynddi, roedd hi'n rhewi ac roedden ni wedi ein gorchuddio gan eira hefyd.

"Ond doedden ni ddim eisiau symud oherwydd roeddech chi'n meddwl, 'os ydw i'n symud, dwi'n mynd i gamu ar ffrwydryn a dyna ni'."

Ffynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

Will yng nghanol creu darlun ar Ynysoedd y Falklands...

Ffynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

... a dyma fraslun ganddo a gafodd ei greu yn ystod y rhyfel

Delwedd sydd wedi'i serio ar ei gof yw corff milwr ifanc o'r Ariannin a welodd ei gatrawd ar ffordd wedi i'r Archentwyr ildio a dod â'r rhyfel i ben ym Mehefin 1982.

Ar ôl gadael y fyddin, aeth ymlaen i fod yn gerddor, cartwnydd, animeiddiwr a dylunydd gemau.

Ei wraig wnaeth ei berswadiodd i ddefnyddio'i brofiadau rhyfel pan ddechreuodd feddwl am ysgrifennu am rannau o'i fywyd.

Bwriad Will yn wreiddiol oedd canolbwyntio ar brofiadau gyda bandiau, ond at gartwnau y trodd er mwyn adrodd ei stori.

Ffynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn o fomio'r llong gyflenwi Sir Galahad, pan gafodd 32 aelod o'r Gwarchodlu Cymreig eu lladd

"Dywedodd hi, 'pam na wnei di ddechrau gyda'r fyddin, oherwydd yn amlwg dyw pawb heb fod mewn rhyfel ac mae hynny'n eithaf diddorol'," meddai Will.

"Byddwn i'n sgwrsio gyda rhywun oedd heb fod i'r Falklands a rhannu'r holl straeon erchyll hyn a bydden nhw'n dweud: 'blimey'.

"Byddwn i'n codi ofn ar bobl gyda'r holl nonsens yma a meddyliais fy mod i'n amlwg â phroblemau gyda'r peth, felly os o'n i'n gallu ei brosesu ac ysgrifennu amdano efallai mai dyna'r ffordd i symud ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dilyn sawl trywydd celfyddydol wedi helpu Will Kevans brosesu ei brofiadau rhyfel

Nid hawdd oedd siarad â phobl oedd wedi cael "profiad annymunol" yn y Falklands, tra'n delio â'i atgofion ei hun.

Ond o'r atgofion daeth ei nofel graffig My Life in Pieces: The Falklands War.

Ffynhonnell y llun, Will Kevans
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o glawr a thudalen o'r llyfr A Life in Pieces

"Pan gynhyrchais i'r llyfr, wnes i ddarganfod bod pobl wrth eu boddau ag e, ac roedd yn helpu pobl i brosesu eu teimladau eu hunain am y Falklands.

"Oherwydd ei fod yn dod gen i - cyn-filwr - roedd yn haws iddynt ei dderbyn.

"Rwy'n meddwl pe bai unrhyw un arall wedi gwneud cartŵn o Ryfel y Falklands, bydden nhw wedi meddwl, 'mae hynny'n ddi-chwaeth braidd, sut gallwch chi fradychu hyn gyda chartwnau?'.

"Wel, dwi'n gartwnydd a dwi'n gyn-filwr felly dwi'n gallu gwneud y ddau beth yna."

Cofnodi'r hanes yn 'garthartig'

Mae ail-fyw profiadau ei hun a phobl eraill mewn print hefyd wedi helpu cyn-filwr arall, Nigel 'Spud' Ely ddod i delerau â thrawma Rhyfel y Falklands.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Nigel Ely ddim yn meddwl ei fod â PTSD nes iddo ddechrau holi cyn-filwyr eraill am eu profiadau

Fe drechodd ei gatrawd, Parasiwtwyr 2 Para, yr Archentwyr yn un o frwydrau mwyaf tyngedfennol y rhyfel, Goose Green, a hynny gyda llawer llai o filwyr.

Ag yntau bellach yn awdur a newyddiadurwr ffotograffig, mae'n cofnodi'r frwydr mewn llyfr i gyd-fynd â'r 40 mlwyddiant.

Mae'n gobeithio ei throi'n ffilm gan ddefnyddio tirweddau Cymru a ysbrydolodd lawer o'i waith ysgrifennu.

Ffynhonnell y llun, Nigel Ely
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Ely yn cofnodi'r brwydr yn y llyfr Goose Green

Roedd glanio ar draeth yn Nwyrain y Falklands yn hollol tu hwnt i'w brofiadau hyd hynny.

"Doedden ni erioed wedi bod mewn cychod glanio. Busnes y Royal Marines oedd hynny. Paratroopersyn neidio allan o awyrennau oedden ni."

Mae'n cofio'r cyrch lawr allt gyda phidogau (bayonets) tua phentref Goose Green wrth i luoedd Ariannin saethu tuag atynt mewn brwydr oedd yn ymdebygu i un o'r Ail Ryfel Byd.

"Roedd yna ffosydd, roedden nhw'n taflu bomiau ffosfforws… wnaethon nhw ein taro gyda phopeth. Roedd y sŵn mor uchel am oriau ac oriau - roedd yn anhygoel," meddai Nigel.

"Roedden ni'n tynnu at ddiwedd yr 20fed ganrif ac roedden ni'n dal i frwydro â gelyn gyda thactegau'r Ail Ryfel Byd, ac offer yr Ail Ryfel Byd yn y bôn hefyd.

"Roedd gan yr Archentwyr well arfau na ni, a gwell kit na ni."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Helmedau ar y llawr wedi i'r milwyr Archentaidd ildio ar ddiwedd brwydr Goose Green

Ymunodd Nigel â'r SAS wedi'r rhyfel a pharhau gyda'r fyddin tan ddechrau'r 2000au.

Daeth tro ar fyd wedi iddo gael ei ddal gan luoedd y gelyn yn Afghanistan, a arweiniodd maes o law at fyd newyddiaduraeth.

Fe weithiodd fel ffotonewyddiadurwr yn y Dwyrain Canol, a dechrau ysgrifennu am ei fywyd milwrol, gan gyhoeddi nifer o lyfrau.

Wrth droi ei sylw at Ryfel y Falklands fel sylweddolodd bod cofnodi ei brofiadau'n gathartig, iddo'i hun ac eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Nigel Ely ag arf o'r brwydro yn y Falklands yn 1982

"Yn y lle cyntaf, fe helpodd gyda'r straen wedi trawma (PTSD) nad o'n i'n meddwl o'n i'n ei ddioddef nes i mi ddechrau gwrando ar straeon pobl eraill," meddai.

"Fe wnes i holi 114 o ddynion, ac o'r rheiny rwy' wedi cynnwys tua 350 o'u straeon, vignettes a hanesion.

"Dywedon nhw wrtha'i wedyn, 'Fyddwn i byth wedi siarad â neb arall am y peth ac rwy' mor ddiolchgar iti ofyn wrtha'i am fy straeon'.

"Roedd ambell un yn ei ddagrau. Doedden nhw heb roi eu straeon i neb arall."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tirwedd Bannau Brycheiniog yn atgoffa Nigel o'r Falklands

Mae Nigel, sy'n hanu o Lundain, wedi treulio cryn amser yng Nghymru.

Siaradodd â BBC Cymru ym Mannau Brycheiniog - tirlun sydd wedi ei "ysbrydoli" a helpu datgloi'i atgofion o'r gwrthdaro.

Dywed bod "rhaid" cynhyrchu unrhyw ffilm am y rhyfel yng Nghymru, oherwydd y tirwedd a'r "cyfoeth o dalent yma".

Ychwanegodd: "Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r Falklands, heb y coed."