Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru angen pwyntiau yng Ngwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi gwneud y daith o LA i ymuno gyda charfan Cymru cyn y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl - y rhai olaf cyn Cwpan y Byd

Trip arall i Frwsel sy'n wynebu tîm pêl-droed Cymru nos Iau, wrth iddynt geisio cadw eu lle ymysg prif ddetholion Ewrop yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fis Mehefin llwyddodd Cymru i ennill pwynt yn y gêm gartref yng Nghaerdydd, diolch i gôl hwyr Brennan Johnson.

Er rhai absenoldebau amlwg o'r garfan gan gynnwys Ben Davies, Joe Allen ac Aaron Ramsey, bydd Robert Page yn gobeithio am amddiffyn yr un mor arwrol a chanlyniad cadarnhaol nos Iau.

Gyda Chymru ar waelod y grŵp, mae'n gêm dyngedfennol gan y byddant yn colli eu lle ymysg timau gorau Ewrop petai nhw'n colli yn erbyn Gwlad Belg, a bod Gwlad Pwyl yn sicrhau pwynt yn erbyn yr Iseldiroedd.

Byddai gêm gyfartal ym Mrwsel hefyd yn anfon Cymru lawr i ail haen Cynghrair y Cenhedloedd pe bai'r Pwyliaid yn ennill yn Warsaw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ildio goliau hwyr wedi costio'n ddrud i GYmru yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd, gan gynnwys gôl Memphis Depay yn Rotterdam fis Mehefin

Ond os yw canlyniadau nos Iau yn mynd o blaid Cymru, yna fe fydd y gêm gartref yn erbyn y Pwyliaid nos Sul yn penderfynu pwy sy'n cadw eu lle yng Nghynghrair A.

Ar ôl ildio goliau hwyr yn erbyn Gwlad Pwyl a'r Iseldiroedd, ddwywaith, ym mis Mehefin, does gan Gymru ond un pwynt o'r bedair gêm chwaraewyd hyd yn hyn.

Fe effeithiwyd ar y paratoadau hefyd gan y gêm hollbwysig yn erbyn Wcrain, sicrhaodd le Cymru yng Nghwpan y Byd.

Gelyn cyfarwydd

Mae Cymru a Gwlad Belg yn gyfarwydd iawn â'i gilydd yn dilyn sawl gêm rhwng y ddwy wlad dros y blynyddoedd diweddar.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Ond er mai honno yn ystod Euro 2016 - a champau Hal Robson-Kanu - sydd fwyaf tebygol o aros yn y cof, mae'r tîm cenedlaethol hefyd wedi profi llwyddiant oddi cartref yn erbyn un o dimau gorau'r byd.

Yn 2013 sicrhawyd gêm gyfartal 1-1 ym Mrwsel, gyda Chymru hefyd yn gadael Brwsel gyda phwynt pwysig yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2016.

Gyda gobaith am ganlyniad positif oddi cartref eto, mae Page yn edrych ar y darlun ehangach cyn y gêm.

"Ni fydd [disgyn haen] yn drychineb, fe fydden ni'n codi ein hunain yn ôl i fyny.

"Rydym bob amser yn edrych yn ôl i'r cwpl o gemau cyntaf. Mae pwyntiau y gallem wedi eu sicrhau yno, dwi'n credu hynny'n gryf.

"Ond y darlun ehangach yw, oherwydd hynny, rydyn ni wedyn wedi gorfod newid ein naratif ychydig.

"Rydyn ni wedi rhoi profiad i'r hogiau ifanc yma a chwarae mewn gemau yn erbyn y timau gorau a defnyddio hynny fel budd hir dymor.

"Rydyn wedi rhoi cyfle i ni'n hunain i aros yn yr adran, ac rydyn ni'n canolbwyntio'n llawn ar hynny."

Mae'n bosib y bydd chwaraewyr ifanc yn cael eu capiau cyntaf dros y ddwy gêm nesaf hefyd, wrth i Page gynnwys Jordan James, 18, a Luke Harris, 17, yn y garfan.

Er bod sawl enw mawr ar goll o'r garfan, mae'r enw mwyaf i Gymru wedi gwneud y daith hir o Los Angeles ar gyfer y gêm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale bellach yn chwarae ei bêl-droed i Los Angeles FC

Wedi symud o Real Madrid dros yr haf, dywedodd Rob Page ei fod yn falch o weld datblygiad Gareth Bale ers iddo ddechrau chwarae i LAFC yn yr MLS.

"Fe allwch chi weld mai dyna'r symudiad iawn iddo fo a'i deulu, yn sicr," meddai Page.

"P'un ai'r ffordd o fyw, yr hyfforddi, fe welsoch chi'r croeso gafodd gan y chwaraewyr... pwy fyddai ddim eisiau mynd i ymarfer bob dydd?

"Mae ganddo fo ei deulu gydag o ac mae'n ymddangos ei fod yn mwynhau ei bêl-droed, er nad ydy'n chwarae 90 munud yr wythnos, doedd o ddim am wneud hynny o wythnos i wythnos.

"Yn y gorffennol mae wedi bod yn wych i ni heb chwarae unrhyw funudau ar lefel clwb, felly mae unrhyw funudau rydyn ni'n cael allan ohono yn fonws.

"Rydym wedi bod yn falch iawn, dyma'r canlyniad gorau i mi."