Galar Neco Williams cyn chwarae yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams yn cael ei gysuro ar ddiwedd y gêm gan Robert PageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Neco Williams yn cael ei gysuro ar ddiwedd y gêm gan Robert Page

Mae'r amddiffynnwr Neco Williams wedi datgelu iddo chwarae yn y gêm agoriadol i Gymru yng Nghwpan y Byd ddiwrnod ar ôl cael gwybod bod ei daid wedi marw.

Roedd Williams, gafodd ei eilyddio yn ystod ail hanner, yn ei ddagrau ar ddiwedd y gêm gyfartal gyda'r Unol Daleithiau.

Fe wnaeth y chwaraewr 21 oed bwyntio i'r nefoedd mewn teyrnged i'w daid Kelvin Jones.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ei gyfrif trydar dywedodd Williams a gafodd ei eni yn Wrecsam:"I fynd o grïo drwy'r diwrnod cyn cychwyn mewn gêm Cwpan y Byd - roedd hynny'n galed ofnadwy.

"Ond fe lwyddais i ddod drwyddi gyda chymorth y tîm a fy nheulu."

Cyn y twrnament fe wnaeth Neco siarad am ddylanwad ei deulu arno, gan gynnwys dylanwad ei daid.

"Rwy'n meddwl mai fy nhaid ddechreuodd pethau," meddai wrth y BBC.

"Roedd o'n chwaraewr da a bu sgowtiaid yn ei wylio pan yn ifanc a fo oedd un o'r chwaraewyr gorau yn yr ardal.

"Anafiadau wnaeth ei rwystro, felly rwyf wedi parhau â'r hyn allai wedi digwydd iddo fo."