'Pobl Ynys Môn wedi syrffedu ar ddiffyg eglurder Wylfa'
- Cyhoeddwyd
Mae'r "diffyg eglurder" ynghylch atomfa niwclear newydd i Ynys Môn wedi "tynnu'r mat o dan draed" llawer o drigolion, yn ôl arweinydd y cyngor sir.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi fod pobl wedi "syrffedu" ac wedi'u "gadael i lawr" gan "ddiffyg polisi a chynllun ariannu clir" o gyfeiriad San Steffan.
Wrth bryderu hefyd bod diffyg cyfleoedd gwaith yn arwain at ddiboblogi cefn gwlad, dywedodd fod y sefyllfa economaidd yng ngogledd Môn yn "dorcalonnus" a bod "angen ateb un ffordd neu'r llall".
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y DU fod niwclear yn "rhan allweddol o'n sicrwydd ynni a'n cynllun i sicrhau biliau ynni is".
'Neb yn cymryd eu lle nhw'
Roedd gobeithion economaidd yr ardal yn lled-ddibynnol ar adeiladu atomfa newydd i olynu'r orsaf Magnox wreiddiol, gyda disgwyl y byddai'n creu tua 1,000 o swyddi parhaol.
Ond cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 eu bod yn atal yr holl waith ar gynllun Wylfa Newydd, a fyddai wedi costio hyd at £20bn, yn sgil methiant i ddod i gytundeb ariannol.
Er nad pawb sy'n gefnogol o niwclear, roedd yn ergyd i ynys oedd eisoes wedi colli dros 500 o swyddi yn sgil cau ffatri Octel Amlwch yn 2004 ac Alwminiwm Môn yn 2009.
Yr un oedd y stori gyda chau drysau ffatri Rehau yn Amlwch yn 2019, gan arwain at ddiswyddo 100 arall.
Stori debyg yw cau ffatri 2Sisters Llangefni - gan arwain at 700 yn colli eu swyddi - mae hynny hefyd yn cael ei deimlo'n lleol.
Yn sgil yr ergydion economaidd hyn, dywedodd arweinydd Cyngor Môn fod "nifer o gwmnïau wedi symud allan ond fod neb yn cymryd eu lle".
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu 24 gigawat o drydan drwy ffynonellau niwclear erbyn 2050.
Ond mewn adroddiad diweddar gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan nodwyd fod angen eglurder ynglŷn â sut mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflawni hynny, gyda heriau o ran cost datblygu gorsaf niwclear fawr yn Wylfa a phrinder sgiliau i gyflawni'r gwaith.
"Mae'r sefyllfa yn dorcalonnus," meddai Llinos Medi wrth BBC Cymru Fyw, gan ychwanegu fod pobl ifanc yn haeddu ateb "yr un ffordd neu'r llall" ar ddyfodol Wylfa.
"'Dan ni'n teimlo fel ardal bo' ni 'di cael codwm, ac ar ôl cael codwm mae rhywun yn fwy nerfus i godi eto, dydi?
"Nes daw 'na bolisi clir ac ariannu clir gan y llywodraeth, 'da ni ddim yn gwybod mwy heddiw na'r oeddan ni bum mlynedd yn ôl ar ddyfodol y safle.
"Mae rhywun yn gallu gweld yn y gymuned beth ydy effaith peidio cael y swyddi yna. Mae'r to ifanc yn symud o'na, da' ni'n gweld llai o bobl ifanc... mae'n cael effaith ar y gymuned ehangach wedyn.
"Mae [y dirywiad] wedi digwydd yn raddol. Yr her fwyaf i ni ydy lleoliad gogledd yr ynys a'i fod o mor bell."
'Rhwystr mawr'
Yn bennaf oherwydd sefyllfa economaidd yr ardal, yn 2021 fe agorodd Môn CF ganolfan barhaol ar stryd fawr Amlwch ar safle banc ola'r dref.
Yn elusen sy'n helpu pobl i fabwysiadu sgiliau newydd ac yn ôl i waith neu sefydlu busnes eu hunain, maen nhw wedi helpu dwsinau o gyn-weithwyr 2Sisters i ddychwelyd i'r byd gwaith.
Ond gyda'r angen i deithio ymhellach i gyrraedd cyflogwyr mawr - hyd yn oed i drefi eraill ar yr ynys - mae'n rhwystr ychwanegol i'r rheiny sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Rhys Roberts o Môn CF: "Mi oedd 'na alw yn Amlwch. Roedd 'na lot o bobl yn ddi-waith neu eisiau gwella eu sefyllfa ond gyda nunlla i droi.
"Mae gogledd Môn wedi cael hit o ran cyflogwyr mawr yn gadael. Yn enwedig os dydach chi ddim yn dreifio - mae hynny'n rhwystr mawr i rhywle fel Amlwch.
"Rhaid i chi drafeilio dipyn i gael hyd i waith. Mae o'n agoriad llygaid sut mae o'n effeithio'r gymuned leol.
"'Dan ni'n gweld hwnna'n rhwystr mawr."
'Ardal wedi ei anghofio'
Yn wyneb yr heriau sy'n wynebu'r ardal, mae llawer sydd wedi troi at Môn CF am gymorth yn dweud fod canfod swyddi lleol yn anodd.
Dywedodd Aidan Payne o Amlwch, sydd ar hyn o bryd yn chwilio am waith, fod "diffyg buddsoddiad" yn yr ardal ac "fod yn rhaid teithio i Gaergybi neu Fangor ar gyfer unrhyw gyfleon gwaith".
"Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn o ran dal y bysiau, ac mae rhai yn gallu cymryd lot o amser ac ychwanegu lot o amser i'ch diwrnod," meddai.
"'Dan ni angen lot mwy o gyflogwyr yn yr ardal yma ond does 'na neb yn siŵr iawn be' sy'n digwydd hefo Wylfa.
"Mae'r ardal yma'n teimlo fel bod o wedi'i anghofio amdano."
Yr ateb i eraill oedd mynd i fusnes dros eu hunain a cheisio hybu'r stryd fawr, er gwaetha'r sialensau.
Yn arfer gweithio mewn ysgol ond wedi ei hyfforddi fel artist, ers dwy flynedd a hanner mae Ffion Godwood yn helpu i redeg oriel ar stryd fawr Amlwch.
"Mae pobl leol wedi bod mor gefnogol, be' 'dan ni gyd eisiau ydy cael pobl 'nôl i'r dref ac yn gwario," meddai Ffion, sydd hefyd wedi dylunio cyfres o furluniau o amgylch y dref.
"Mae o'n fwy o hwb na siop i ddweud y gwir. Ers i ni agor mae 'na fwy o craft shops wedi agor."
'Heriol dros ben'
Ond tra'n croesawu'r buddion economaidd posib, gan gynnwys dynodi safle Rhosgoch o fewn cais llwyddiannus Cyngor Môn am statws Porthladd Rhydd, galw am sicrwydd ar Wylfa Newydd mae un o'r cynghorwyr lleol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, sydd hefyd yn arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Môn: "Mae'n heriol dros ben. Mae 'na nifer o gwmnïau wedi'u colli.
"'Dan ni'n gwybod fod porthladd rhydd yn dod a 'dan ni'n gobeithio fydd swyddi i ogledd Môn.
"Y gobaith ydy y gall yr atomfa ei atgyfodi gan fod Wylfa y safle gorau yn y Deyrnas Unedig.
"'Dan ni'n credu fod porthladd rhydd am gymryd tua dwy flynedd, ond 'dan ni'n lwcus iawn fod pawb wedi cydweithio i gael hwn a rhaid i ni afael yn y cyfle i gael gwaith i'r ynys.
"Mae gynnon ni gyfle yma, ond rhaid dyfalbarhau gyda'r atomfa - mae angen ynni ar y DU.
"Mae niwclear yn gorfod bod yn ddarn o'r ateb i hynny ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau cadarn fel y gall cwmnïau eraill symud yn eu blaen.
"Fedrith cwmni fel Rolls Royce, sy'n meddwl am reactor bychan, ddim gwneud penderfyniadau heb fod y llywodraeth yn penderfynu sut 'da ni am wireddu ynni gwyrdd i gyrraedd ein targed carbon."
'Angen cyfeiriad cadarn'
Gan gydnabod fod trafnidiaeth gyhoeddus "yn her" yng nghefn gwlad, yn ogystal â galw am wella'r gwytnwch o ran croesi'r Fenai, fe ddywedodd arweinydd y cyngor fod grymoedd awdurdodau lleol o ran datblygu economaidd yn "gyfyngedig".
Gyda'r cyngor yn bwriadu datblygu mwy o unedau busnes yn yr ardal i ateb gofynion busnesau bychain, ychwanegodd Llinos Medi: "Er ddim yn cael budd economaidd mi all rhai pethau gael effaith llesiant.
"'Da ni wedi gosod cae chwaraeon 3G [yn Amlwch] yn ddiweddar jyst i drio hybu'r ymdeimlad cymunedol 'na pan fod bob dim arall yn teimlo'i fod yn dirywio o'u cwmpas nhw."
Ychwanegodd: "Os fedran ni ddim cyrraedd ein gwaith allwn ni ddim gweithio. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn her wedi dros ddegawd o dorri gwariant cyhoeddus.
"Mae'r porthladd rhydd yn rhywbeth 'da ni'n ofalus bositif amdano. 'Dan ni wedi rhoi Rhosgoch yn y prospectus felly mae hwnnw'n ardal strategol, all helpu.
"Pan ddaw y ffyniant 'da ni'n gobeithio bydd angen y supply chain yna a'r posibilrwydd i Amlwch a'r ardal weld budd o hynny, ond yr her ydy fod nhw angen gweld hynny rŵan hefo'r diffyg cyfleon.
"'Dan ni hefyd yn gobeithio am ddatblygiad yn Wylfa - fysa hwnnw'n trawsnewid ardal sydd wedi arfer byw hefo atomfa.
"'Dan ni'n parhau i roi pwysau ar y llywodraeth i o leia' gael cyfeiriad cadarn."
'Dirywiad ein pentrefi gwledig'
Yn cydnabod fod trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn "her" ychwanegol, dywedodd ei bod yn pryderu am rai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru.
"Be 'dan ni hefyd yn ei weld ydy pobl yn dechrau symud o'r ardaloedd gwledig 'ma er mwyn bod yn agosach i'r llefydd gwaith," meddai arweinydd y cyngor.
"Dewis personol nhw ydy hynny. Lle mae hwnnw yn fy mhryderu i ydy 'da ni'n mynd i weld mwy o ddirywiad yn y pentrefi gwledig yna.
"'Dan ni'n ei weld o'n glir iawn rŵan. Mae'r dirywiad yn nifer y genedigaethau yn amlwg iawn yn ein hystyriaethau ni pan yn meddwl am gynnal gwasanaethau - mae o'n faes ofnadwy o gymhleth.
"Ond dydan ni heb anghofio am yr ardal. 'Dan ni'n ymwybodol o'r her i wneud yn siŵr ei fod yn ffynnu i'r dyfodol. Mae Porth Amlwch yn ardal neis iawn ac mae 'na gryfderau mawr i'r ardal."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae niwclear yn rhan allweddol o'n sicrwydd ynni a'n cynllun i sicrhau biliau ynni is.
"Bydd y cynllun Great British Nuclear a lansiwyd yn ddiweddar, ynghyd â chefnogaeth ehangach y llywodraeth, yn sicrhau'r uchelgeisiau yma gan gynnwys sut rydym yn edrych i sicrhau mynediad i safleoedd niwclear newydd gyda Wylfa yn gystadleuydd gan ystyried y gefnogaeth gref sydd iddo o fewn y gymuned leol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019