Vaughan Gething yn enwi cabinet Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y cabinet newydd

Mae Vaughan Gething wedi enwi aelodaeth cabinet ei lywodraeth, ar ei ddiwrnod llawn cyntaf yn brif weinidog.

Mae Eluned Morgan yn parhau yn gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, mae Jeremy Miles yn symud i faes yr economi, ynni a'r Gymraeg, tra bod Ken Skates yn dychwelyd i'r cabinet i fod yn gyfrifol am drafnidiaeth a gogledd Cymru.

Mae Mr Gething wedi penderfynu defnyddio'r term 'ysgrifenyddion cabinet' yn hytrach na gweinidogion.

Mae'r cyn-ddirprwy weinidog iechyd meddwl Lynne Neagle yn cael ei dyrchafu'n ysgrifennydd addysg ac mae Huw Irranca-Davies yn ymuno â'r cabinet fel ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig.

Mae Lesley Griffiths yn symud o faterion gwledig i fod yn ysgrifennydd diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol.

Y cabinet yn llawn, gyda 9 menyw a 5 dyn, yw:

Y Prif Weinidog: Vaughan Gething

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol: Mick Antoniw

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Eluned Morgan

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Julie James

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Lesley Griffiths

Y Prif Chwip a'r Trefnydd: Jane Hutt

Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hannah Blythyn

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar: Jayne Bryant

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden.

'Dros ein cenedl gyfan'

Dywedodd Vaughan Gething: "Rwy'n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru.

"Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y llywodraeth.

"Yn benodol, rwy'n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.

"Bydd y tîm gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach."

'Sicrhau Llywodraeth unedig ar draws y blaid'

Mae ein gohebydd gwleidyddol, Rhodri Lewis, wedi bod yn dadansoddi'r prif manylion o'r cabinet newydd ar raglen y Post Prynhawn:.

Dywedodd "nad oes syndod" bod Jeremy Miles yn aros o fewn y Llywodraeth "achos fe oedd wedi gwrthwynebu Vaughan Gething ac wrth gwrs un o brif fwriadau unrhyw un sy'n sefyll fel Prif Weinidog newydd yw tynnu'r rhai oedd yn dy wrthwynebu di i mewn a'u cefnogwyr nhw er mwyn sicrhau fod gennych chi Lywodraeth unedig sy'n estyn ar draws y blaid.

Aeth ymlaen i ddweud mai'r sioc fwyaf yw "bod Eluned Morgan yn parhau i fod Ysgrifennydd Iechyd - mi oedd 'na gyfres o awgrymiadau wedi bod yn ystod yr wythnosau sydd 'di mynd heibio bod hi'n symud o'r swydd."

"Doedd hi ddim wedi dweud dim byd yn swyddogol ond roedd mood music fel petai'n awgrymu bod hi yn mynd i adael y swydd yna - falle'r swydd bwysicaf o fewn y Llywodraeth oherwydd iechyd sy'n hawlio gymaint o arian a falle hefyd dyna le mae'r problemau dwysa i'w cael."

Ffynhonnell y llun, UK Covid-19 Inquiry
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eluned Morgan yn parhau â'i swydd fel Ysgrifennydd Iechyd

Aeth ymlaen i drafod yr wyneb newydd fydd yn y cabinet sef yr Ysgrifennydd dros Addysg Lynne Neagle gan ddweud "ei bod hi wedi bod yn ddirprwy weinidog hyd yma".

"A pherson arall sy'n dychwelyd i'r cabinet yw Ken Skates sydd wedi cael ei apwyntio fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru."

"Wedyn ry' ni'n symud ymlaen i berson fuodd yn weinidog o'r blaen sef Huw Irranca Davies - yn dod yn Weinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Mi oedd 'na son falle bydde Materion Gweldig ddim yn cael person cyflawn ei hun yn y cabinet ond dyw hynny ddim yn gywir - fydd o'n amlwg yn gorfod dod i'r afael â'r problemau y mae'r Llywodraeth wedi cael gyda ffermwyr hyd yma a'u gofidion nhw am gynlluniau'r llywodraeth."

"Y priff chwip fydd Jane Hutt - mae hi wedi bod yn weinidog ers ryw ugain mlynedd felly mae hi'n hen hen law ar y pethe hyn a wedi cael cyfres o swyddi."

Ymateb

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, "mae hwn yn gabinet parhad a fydd, yn syml, yn cyflawni mwy o'r un peth yng Nghymru.

"Roedden ni wedi gobeithio y byddai Vaughan yn defnyddio'r siawns o gael llechen lân i gael gwared ar brosiectau gwagedd Llafur a chanolbwyntio ar drwsio ein gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi torri, ond mae'n amlwg nad oes ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.

"Er y byddai'n well gan Lafur barhau i dreulio amser, egni ac adnoddau gwerthfawr yn rhoi mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobol."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "dymunaf yn dda i bob gweinidog a dirprwy wrth iddynt gymryd eu swyddi newydd gan fynd ati i fynd i'r afael â heriau sylweddol ar draws pob portffolio.

"Rhaid i lywodraeth newydd fodloni pobl Cymru yn gyflym o'i chymhwysedd a'i hygrededd a dangos argyhoeddiad i droi'r llanw ar record Llafur yng Nghymru.

"Mae tlodi plant, rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd, safonau addysgol isel ac economi gwan yn mynnu meddwl o'r newydd a gweithredu'n gyflym.

"Rhaid i heddiw fod yn drobwynt yn agwedd y llywodraeth tuag at graffu. Bydd gweinidogion sy'n barod i agor eu hunain i feirniadaeth a syniadau eraill, yn sicrhau gwell llywodraeth i bobl Cymru."