Awema: Galw am ymchwiliad gan yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau o'r newydd ar i Heddlu De Cymru ymchwilio i honiadau o lygredd ariannol o fewn elusen lleiafrifoedd ethnig Awema.
Cafodd Prif Weithredwr yr elusen, Naz Malik, a'r cyfarwyddwr cyllid, Saquib Zia, eu diswyddo ddydd Gwener.
Fe fydd gweinyddwr yn cael ei benodi i reoli asedau a busnes Awema a chau'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Abertawe.
Daw hyn wedi adroddiad damniol yn gynharach yn y mis arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn atal cyllid i'r elusen.
Dywedodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ei fod yn credu y dylai'r heddlu ymyrryd ac ymchwilio.
"Dydi'r ffaith nad ydi'r ddau yma bellach yn gweithio i'r sefydliad ddim yn ddiwedd y gân," meddai.
Cysylltiadau gwleidyddol
"Mae 'na gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn.....
"Pam bod arian cyhoeddus wedi ei roi i'r sefydliad, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ddim ymyrru wyth mlynedd yn ôl ar honiadau tebyg?
"Ac wrth gwrs mae 'na gwestiynau am gysylltiad rhwng y Blaid Lafur ac Awema a gweinidogion unigol."
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, bod y llywodraeth wedi cymryd camau pendant drwy derfynu cyllid cyhoeddus i Awema.
Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cychwyn ymchwiliad.
"Dwi'n credu bod hi'n iawn fod Awema yn dod i ben," meddai Mr Millar.
"Dwi'n falch bod yr ymddiriedolwyr wedi penodi gweinyddwr i ddirwyn yr elusen i ben.
"Ond dim dyna'r diwedd.
"Fe fydd 'na adroddiad arall gan Swyddfa Archwilio Cymru....a'r Comisiwn Elusennau."
Nododd Adroddiad Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, gafodd ei gyhoeddi ar Chwefror 9, fod methiannau sylweddol a sylfaenol yn fframwaith rheoli a llywodraethu Awema.
Roedd Awema yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012