Cyhuddo cyd-amddiffynydd o lofruddiaeth Aamir Siddiqi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen ysgol o'r brifddinas wedi beio ei gyd-amddiffynnydd am y llofruddiaeth.
Yn Llys y Goron Abertawe honnodd Jason Richards ei fod gartref pan gafodd Aamir Siddiqi, 17 oed, ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yn ardal y Rhath ym mis Ebrill 2010.
Honnodd fod Ben Hope, 39 oed, sydd hefyd yn gwadu llofruddio'r llanc a cheisio llofruddio'i rieni, wedi mynd i mewn i'w gartref gyda gwaed dros ei ddillad cyn mynnu cael dillad glan funudau wedi i Aamir Siddiqi gael ei ladd.
Mae Mr Richards a Mr Hope yn gwadu llofruddio Aamir Siddiqi.
Camgymeriad
Maen nhw hefyd yn gwadu ceisio llofruddio rhieni Aamir.
Bedwar mis ers dechrau'r achos, fe wnaeth Mr Richards wadu yn y llys bod ganddo unrhyw beth i'w wneud â llofruddiaeth Aamir Siddiqi.
Mae'r erlyniad wedi honni i Mr Richards, sy'n dad i ddau, gymryd cyffuriau cyn gyrru i gyfeiriad ar Ffordd Ninian mewn camgymeriad ar ddiwrnod llofruddiaeth Aamir Siddiqi.
Mae'r rheithgor wedi clywed i ddau ddyn yn gwisgo mygydau balaclafa ddefnyddio cyllyll i ladd Aamir, a thrywanu ei rieni hefyd.
Dydd Iau, dywedodd Mr Richards ei fod wedi bod gartref pan gyflawnwyd y llofruddiaeth.
Honnodd fod Mr Hope wedi mynd i mewn i'w gartref gyda gwaed dros ei ddillad cyn mynnu cael dillad glân.
Pan ofynnwyd i Mr Richards am ymddygiad Mr Hope, dywedodd: "Gofynnodd i mi ân ddillad glân.
"Roedd 'na waed ar ei gôt, ar ei frest ac ar ei stumog.
"Gofynnais beth oedd wedi digwydd a dywedodd y byddai'n well i mi gael gwybod cyn lleied â phosib."
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012
- Cyhoeddwyd26 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012