2,500 wedi cael brechiad mewn clinigau

  • Cyhoeddwyd
Queues at Morriston Hospital on SaturdayFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ciwio y tu allan i Ysbyty Treforys ddydd Sadwrn

Mae tua 2,500 o bobl wedi cael eu brechu mewn clinigau arbennig a sefydlwyd ddydd Sadwrn.

Bu pobl yn ciwio ar gyfer y clinigau i gael y brechiad MMR yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer yr achosion wedi cyrraedd 693, ond dywedodd Dr Meirion Evans o ICC y gallai'r nifer "ddyblu'n hawdd".

Dywedodd bod 40,000 o blant yng Nghymru sy'n dal heb gael y brechiad.

Dywedodd Dr Evans bod yr achosion yn Abertawe o ganlyniad i 10 i 15 mlynedd o bryder am y brechiad MMR, a hynny wedi pryder a godwyd am y brechiad gan Dr Andrew Wakefield yn y 1990au oedd yn ei gysylltu gydag awtistiaeth.

Rhybuddiodd hefyd y gallai'r achosion barhau tan yr haf gan y gall y clefyd ymledu'n gyflym mewn ysgolion.

Bydd disgyblion yn dychwelyd i ysgolion ardal Abertawe ddydd Llun yn dilyn gwyliau'r Pasg.

Manylion brechu

Ddydd Sadwrn, cafodd 1,700 o bobl eu brechu mewn clinigau yn ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe yn ogystal Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod rhai clinigau wedi agor yn gynnar gan fod pobl yn ciwio mor gynnar â 8:30am er mai am 10 yr oedd y clinigau i fod i agor.

Yn y de-ddwyrain fe gafodd 400 eu brechu yn Ystrad Mynach a 200 yng Nghasnewydd mewn clinigau a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Yn y cyfamser daeth tua 200 i gael y brechiad yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac Ysbyty Llandochau ger Penarth.

Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi trefnu clinigau arbennig hyd yma, ond yn galw ar bobl i gysylltu gyda'u meddyg teulu er mwyn cael y brechiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol