Ian Watkins i gael ei ddedfrydu

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Watkins yn "derbyn ei fod yn bidoffeil penderfynol"

Bydd cyn ganwr grŵp y Lostprophets yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach wedi iddo bledio'n euog fis diwethaf i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Plediodd Ian Watkins, 36 oed o Bontypridd, yn euog i 13 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.

Bellach mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r posibilrwydd fod Watkins wedi cyflawni troseddau tebyg yn yr Almaen ac America.

Mae'r swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad wedi dweud ei fod "yn sicr" bod dioddefwyr eraill yn rhywle.

Dedfrydu dwy arall

Ar ddechrau'r achos yn ei erbyn ym mis Tachwedd fe blediodd Watkins yn euog er iddo wadu'n llwyr y cyhuddiadau cyn hynny.

Clywodd y llys fod Watkins yn "derbyn ei fod yn bidoffeil penderfynol" wrth iddo gyfaddef ceisio treisio plentyn o dan 13 oed, ond fe blediodd yn ddieuog i dreisio. Fe gafodd hynny ei dderbyn gan yr erlyniad.

Plediodd yn euog hefyd i gynllwynio i dreisio plentyn, tri chyhuddiad o ymosodiadau rhyw yn ymwneud â phlant, saith o dynnu, gwneud neu fod â delweddu anweddus o blant yn ei feddiant ac un cyhuddiad o fod â delwedd bornograffig eithafol yn ei feddiant.

Fe wnaeth dwy fenyw - mamau'r plant gafodd eu cam-drin - hefyd newid eu ple gan gyfaddef nifer o'r cyhuddiadau yn eu herbyn nhw. Fe fyddan nhw hefyd yn cael eu dedfrydu ddydd Mercher.

Clywodd y llys fod y dystiolaeth yn erbyn Watkins wedi dod o gyfrifiaduron, gliniaduron a ffonau symudol oedd yn eiddo iddo.

Roedd un gliniadur a gafodd ei ddarganfod yng nghartref Watkins wedi ei gloi gyda chyfrinair, a bu'n rhaid gyrru'r peiriant i arbenigwyr er mwyn ei ddatgloi. Roedd y cyfrinair yn eiriau anweddus yn ymwneud â gweithredu rhywiol gyda phlant.

Datgelwyd yn y llys hefyd fod Watkins wedi ffilmio a chadw rhai o'r achosion o gam-drin oedd wedi digwydd mewn gwestai yn Llundain a De Cymru. Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i'r ffilmiau yna.

'Mwy o ddioddefwyr'

Y Ditectif Prif Arolygydd Peter Doyle, o Heddlu'r De, sy'n arwain yr ymchwiliad i droseddau eraill posib gan Watkins.

Dywedodd fod yr ymchwiliad yn un anferth oherwydd maint y data, sef 27 Terabyte - mae hynny "bedair neu bum gwaith cymaint o ddata sy'n cael ei gadw gan Heddlu de Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'r ymholiadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau yn fy arwain i gredu bod mwy o ddioddefwyr yn y gwledydd hynny.

"Ar hyn o bryd rwy'n credu mai plant yw'r dioddefwyr hynny."

Mae'r tîm ymchwilio o Heddlu'r De yn cydweithio â'r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol, Interpol ac adran Homeland Security yn America.