Oriel: lidos coll Cymru

  • Cyhoeddwyd
old photo of lidoFfynhonnell y llun, Brynaman Lido Committee
Disgrifiad o’r llun,

Lido Brynaman

Gair Eidaleg am draeth ydi lido, a'r pyllau nofio awyr agored o'r un enw oedd y peth agosaf oedd gan nifer o gymunedau yng Nghymru i nofio ym Môr y Canoldir ar un cyfnod.

Ar un pwynt roedd 57 lido ar draws y wlad ac ym misoedd y gwanwyn a'r haf byddai plant, teuluoedd a nofwyr o bob oed yn mynd yno yn eu heidiau.

I blant y 60au a'r 70au bydd yr atgofion o neidio mewn i'r dŵr oer yn ystod gwyliau ysgol yn dal yn fyw. Bydd rhain hefyd yn cofio'r pyllau yn cael eu dymchwel neu eu gadael i eistedd yno'n sych wrth i boblogrwydd gwyliau tramor a phyllau dan do gynyddu yn yr 80au a'r 90au.

Dyma ydi hanes lidos ar draws Prydain gyfan, ac yn wahanol i barciau cyhoeddus neu fannau naturiol gwarchodedig ni lwyddodd y lidos, a gafodd eu hadeiladu a brwdfrydedd yn yr 1920au, gyrraedd yr unfed ganrif ar hugain.

Ond mae yna obaith i ddyfodol y lido yng Nghymru. Cafodd Pontypridd y niferoedd uchaf o ymwelwyr i'w lido yn 2021 ac mae ymgyrchoedd i ail-agor nifer ar draws y wlad gan gynnwys Brynaman, Y Fenni a'r Bari.

Wrth i'r gwanwyn gyrraedd mae Cymru Fyw wedi tyrchu am gofnodion y lidos a fu.

Deganwy, Conwy

Ffynhonnell y llun, Grwp Hanes Deganwy
Disgrifiad o’r llun,

Lido Deganwy. Adeiladwyd yn 1934 ac roedd ganddo ddigon o le i 10 mil o bobl eistedd. Caewyd y pwll ar ddiwedd yr 1960au er mwyn codi tai

Pontllanfraith, Caerffili

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Deifwyr yn Lido Pontllanfraith a agorwyd yn 1927

Y Fenni

Disgrifiad,

Rasio yn lido y Fenni, 1960au

Ffynhonnell y llun, Forgotten Abergavenny
Disgrifiad o’r llun,

Yr hen bwll nofio awyr agored ym Mharc Bailey, Y Fenni. Mae ymgyrchwyr Grŵp Lido'r Fenni yn gobeithio efelychu'r poblogrwydd a fodolai yno ers talwm

Pontypridd

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Lido Pontypridd ym Mharc Ynysangharad. Adeiladwyd yn 1927 allan o boced y glowyr er mwyn i'w teuluoedd gael lle i nofio. Bu'r canwr Tom Jones yn ymwelydd cyson iawn ar un cyfnod

Disgrifiad o’r llun,

Ailagorwyd y lido yn 2015 yn dilyn prosiect adnewyddu gwerth £6.3m. Bu 92,000 o ymwelwyr yno yn 2021 - ei haf prysuraf erioed

Y Bari

Ffynhonnell y llun, Old Barry In Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Lido Cold Knap Y Bari ym mis Mehefin, 1970. Dyma lido mwyaf de Cymru o'r cyfnod

Disgrifiad o’r llun,

Fuodd lidos fel hon yn y Bari yn boblogaidd nes i bobl ddechrau teithio dramor yn amlach. Mae ymgyrchwyr Rebuild The Knap Lido yn gobeithio gweld y pwll yn cael ei ddefnyddio eto yn y dyfodol

Prestatyn

Ffynhonnell y llun, RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Lido Prestatyn, o 1923, oedd yn cynnwys dŵr môr yn wreiddiol. Codwyd neuadd y Starlight Suite yma yn yr un flwyddyn ble chwaraeodd The Bealtes yn 1962, The Rolling Stone yn 1963 a Status Quo yn 1969

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cardyn post o lido Prestatyn

Brynmawr, Casgwent

Ffynhonnell y llun, GwentHeritage
Disgrifiad o’r llun,

Lido Brynmawr. Yn ystod haf 1931 daeth dros 100 o wirfoddolwyr o Brydain ac yn rhyngwladol i adeiladu'r pwll mewn hen bwll sbwriel. Daeth pobl o Wlad Belg, Bwlgaria, Ffrainc, Yr Almaen, Norwy, Y Swistir, Y Weriniaeth Tsiec, yr Unol Daleithiau. Roedd hi'n brosiect cyntaf o'i fath yn y DU a cyfrannodd i sefydlu'r Wasanaeth Wirfoddol Rhyngwladol ar Gyfer Heddwch

Ffynhonnell y llun, International Voluntary Service
Disgrifiad o’r llun,

Brynmawr, 1933

Troedyrhiw, Merthyr Tydfil

Ffynhonnell y llun, RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Lido Troedyrhiw, Merthyr Tydfil. Adeiladwyd ar allt gan lowyr di-waith yn 1934

Bontfaen

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Lido Bontfaen

Llandrillo-yn-Rhos, Conwy

Ffynhonnell y llun, ColwynBayPastandPresent
Disgrifiad o’r llun,

Lido Llandrillo-yn-Rhos, 1933-1978

Brynaman, Sir Gaerfyrddin

Ffynhonnell y llun, Brynaman Lido Committee
Disgrifiad o’r llun,

Lido Brynaman. Cafodd ei godi yn yr 1930au a bu rhaid iddi gau yn 2010 wedi i dywydd oer y gaeaf achosi difrod

Ffynhonnell y llun, Brynaman Lido Committee
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio adfer ac ailagor y pwll nofio awyr agored yn Sir Gaerfyrddin. Dyluniad artist o sut all y lido edrych ar ôl cael ei adnewyddu

Pynciau cysylltiedig