Dyn gafodd ei garcharu ar gam yn galw am gorff newydd yn lle Swyddfa'r Post

Mags a Dewi LewisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dewi Lewis ei garcharu yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo ar gam o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam yn sgil sgandal system Horizon yn dweud fod enw da Swyddfa'r Post wedi ei ddinistrio a bod angen sefydlu corff newydd.

Ar ôl clywed gan bron i 5,000 o dystion dros ddwy flynedd a hanner, fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Swyddfa'r Post yn dod i ben ddydd Mawrth.

Rhwng 2000 a 2014 fe gafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a'u cyhuddo ar gam o ddwyn arian, fel rhan o'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain".

Yn ôl Dewi Lewis, o Benrhyndeudraeth, "dydi'r Post fel y mae o ar hyn o bryd ddim yn ffit i bwrpas, ac mae angen corff newydd efo pobl newydd".

Rhwng 2000 a 2014 fe gafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a'u cyhuddo ar gam o ddwyn arian, fel rhan o'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain".

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.

Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.

Cafodd wybod ym mis Awst fod ei euogfarn wedi'i dileu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd euogfarn Dewi Lewis ei dileu ym mis Awst, deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, Mags

Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Mr Lewis ei fod yn edrych ymlaen at weld cynnwys yr adroddiad fydd yn deillio o'r ymchwiliad.

"Dwi ddim yn un sydd am ddial yn benodol ar unrhyw un, ond mae'n bwysig fod pobl yn bod yn lawer mwy agored am yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.

"Rhaid i ni ddysgu gwersi er mwyn gallu symud 'mlaen a dwi ddim yn meddwl bod y Post - fel mae o ar hyn o bryd - yn ffit i bwrpas.

"Mae angen ryw gorff newydd efo pobl newydd. Mae o 'di cael ei ddinistrio fel corff.

"Dwi'n meddwl bod rhaid iddyn nhw wynebu be ma' nhw 'di ei wneud, a bydd rhaid iddyn nhw fyw efo'u cydwybod am weddill eu hoes - os oes ganddyn nhw gydwybod."

'Rhyddhad a thristwch'

Fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Horizon yn clywed datganiadau cloi'r cyfreithwyr ddydd Mawrth.

Mae'r ymchwiliad wedi edrych ar filiynau o ddogfennau ac wedi clywed gan wleidyddion, swyddogion Swyddfa'r Post, cyn is-bostfeistri a phostfeistresi yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol a'i argymhellion gael eu cyhoeddi'r flwyddyn nesaf gan Syr Wyn Williams - cyn-farnwr Uchel Lys, sy'n dod o'r Rhondda.

Mae'r ffaith fod yr ymchwiliad yn dirwyn i ben yn destun "rhyddhad" i Dewi Lewis.

"Y cyfan 'da ni'n gael heddiw mewn gwirionedd ydy diwedd ar y rhan yma... fydd hi'n ddiddorol iawn gweld y rhan nesaf a be fydd yr adroddiad yn ei ddweud.

"'Da ni wedi clywed y dystiolaeth - sydd wedi bod yn ddirdynnol ar adegau, wedi teimlo rhyddhad ar ôl cael y llythyrau yn gwneud i ffwrdd a'r euogfarnau, a thristwch hefyd i'r rhai sydd ddim wedi gallu gweld y diwrnod yma.

"Fe glywon ni ddoe am bostfeistres oedd wedi rhoi tystiolaeth sydd bellach wedi ein gadael ni."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Is-bostfeistri o flaen y Llys Apêl yn 2021 ar ôl i'w heuogfarnau gael eu dileu

Ychwanegodd Mr Lewis fod yr ymchwiliad "wedi ailagor briwiau" ond ei fod yn ffodus o'r gefnogaeth sydd ganddo.

"Mae wedi bod yn anodd iawn er y diwrnod cyntaf i'r ymchwilwyr ddod a gwneud yr honiadau," meddai.

"Ma' nhw wedi bod yn flynyddoedd trist, ac ar adegau ma' rywun just yn gorfod trio cario 'mlaen.

"Mae agor yr ymchwiliad a gweld rhai o'r bobl dwi 'di dod ar eu traws dros y blynyddoedd wedi ailagor briwiau i raddau... ond ma' rywun yn ceisio bod yn ddigon cryf i wynebu'r dyfodol, a dyfodol gwell gobeithio.

"Dwi 'di bod yn ffodus iawn o gefnogaeth cyfeillion a theulu, ac yma ym Mhenrhyndeudraeth ma' cefnogaeth gweinidogion, ffrindiau a'r gymuned wedi bod yn gryfder mawr i mi.

"Dwi 'di bod yn ffodus iawn i gymharu â llawer iawn, dwi'm 'di cael neb yn croesi'r ffordd neu'n poeri arna i, a fuodd pobl yn cefnogi'r busnes tan i mi ymddeol ym mis Mawrth."

Pynciau cysylltiedig